Dau ffrind yn dychwelyd i'r Falklands

  • Cyhoeddwyd
Tim Cahill yn y Falklands ar ddiwedd y rhyfelFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 250 o redwyr yn cymryd rhan yn y marathon

Mae dau hen ffrind ysgol, gynt o Brestatyn, am ddychwelyd i Ynysoedd y Falkland 30 mlynedd ar ôl iddynt lanio fel milwyr.

Tro yma, mae Tim Cahill a Jonathan Hughes yn bwriadu hel arian at elusen filwrol wrth gymryd rhan ym marathon yr ynysoedd ar Fawrth 18.

Maent yn rhan o drip wedi ei drefnu gan Gymdeithas Medal y De Iwerydd a bydd yn ymweliad emosiynol i'r ddau gyn-aelod o'r Royal Marines.

Ar Ebrill 2 1982, glaniodd milwyr o'r Ariannin ar yr ynysoedd sy'n dod o dal ofal Prydain.

Pum niwrnod wedyn, roedd y ddau gyd-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Prestatyn ar gychwyn eu siwrne forol hir fel rhan o'r cyrchlu Prydeinig; Tim ar fwrdd llong y Camberra a Jonathan ar y Syr Galahad.

Elusen

"Nid ydym wedi bod yn ôl ers hynny," meddai Tim Cahill, sydd nawr yn rheolwr ar gwmni ym Modelwyddan ac yn byw yn Rhuddlan.

"Ddaru ni benderfynu ei fod yn amser da i ddychwelyd er mwyn y marathon, ac i hel arian ar gyfer elusen y Royal Marines.

"Rydym yn ein pumdegau rŵan, felly efallai dyma'n cyfle olaf i ni fynd."

Ymunodd Jonathan Hughes o Gallt Melyd, sydd erbyn hyn yn ddarlithydd chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr, â'r Marines yn 1977, blwyddyn cyn i Tim ymuno ag ef.

Roedd y ddau yn rhan o'r ymladd ar yr ynysoedd am fis cyn i'r Ariannin ildio ym Mehefin 1982.

"Mae'r ddau ohonom yn awyddus i ddychwelyd i Fae Ajax yn San Carlo lle glaniodd y llongau," meddai Tim.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd ymweliad cyntaf y ddau gyn-filwr i Ynysoedd y Falkland ers 1982

"Hefyd i Fynydd Sussex lle'r oedd yn rhaid i ni aros am gyfnod i amddiffyn pen y bont yno. Dyna le'r oedd yr ysbyty milwrol ac roedd yna llawer iawn o ffrwydron o gwmpas y lle.

"Wnes i fyth gyrraedd y brifddinas, Stanley, chwaith. Ddaru ni gyrraedd o fewn hanner milltir i'r dref, ond roedd yn orlawn o'n milwyr ni a charcharorion o'r Ariannin a'r bobl leol."

Emosiynol

Mae Jonathan yn ymwybodol bydd yn daith emosiynol wrth iddynt ymweld â beddi'r cyfeillion na ddaeth adref.

"Wrth i'r trip nesáu, dwi'n dechrau meddwl am y pethau ddigwyddodd dwi heb feddwl am ers talwm," meddai Jonathan.

Bydd gallu rhedeg marathon llawn yn ddihangfa o'r atgofion trist i'r ddau redwr.

Mae Tim yn aelod o glwb rhedeg Abergele ac mae Jonathan yn ymarfer gyda Rhedwyr Eryri. Mae'r ddau yn ymwybodol mai'r gwynt cryf bydd yr her fwyaf.

"Gall fod hyd at 60 milltir yr awr", meddai Jonathan. "Bydd yn fach o sialens, dwi'n siŵr."

Mae'r ddau yn gobeithio hel £1,000 yr un tuag at ymddiriedolaeth elusennol y Royal Marines sy'n rhoi arian i fudiadau sy'n helpu milwyr wedi eu heffeithio gan ryfel.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol