Merch 20 oed wedi marw ar ôl gorddos o baracetamol
- Cyhoeddwyd
Clywodd cwest bod mam ifanc wedi marw ar ôl cymryd gorddos o dabledi paracetamol.
Bu farw Desiree Phillips, 20 oed o Lanelli, ym mis Awst 2011.
Roedd y fam ifanc wedi diodde' methiant yr iau ar ôl cymryd tabledi paracetamol i ladd poen wedi llawdriniaeth.
Clywodd y cwest ei bod yn prynu'r tabledi dros y cownter a'i bod yn "cymryd ychydig o dabledi ychwanegol" bob dydd.
Cafwyd hyd iddi yn ei chartref yn anymwybodol lle'r oedd yn byw gyda'i mab 11 mis oed.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Tywysog Philip Llanelli gyda methiant yr iau o ganlyniad i wenwyn paracetamol.
Cafodd ei throsglwyddo i ysbyty arbenigol Y Frenhines Elizabeth yn Birmingham i gael trawsblaniad ond bu farw wrth aros am y driniaeth.
"Mae'n amlwg bod Desiree Phillips wedi cymryd tabledi paracetamol am gyfnod sylweddol cyn ei marwolaeth," meddai Mark Leyton, Crwner Sir Caerfyrddin.
Aneglur
"Mae'n bosib ei bod wedi cymryd mwy na'r dos sy'n cael ei argymell.
"Mae'n bosib hefyd ei bod wedi cymryd gormod o dabledi.
"Dydi hi ddim yn glir a oedd hyn wedi adeiladu dros gyfnod o amser neu a oedd y dos sylweddol yn gyfrifol am ei marwolaeth.
"Bu farw o wenwyn paracetamol ar ôl cymryd y tabledi ei hun.
"Mae'n dal yn aneglur a oedd 'na fwriad cymryd mwy o dabledi a'i pheidio."
Clywodd y cwest bod lefel uchel o dabledi lladd poen yn ei gwaed.
Fe wnaeth y crwner gofnodi rheithfarn naratif.
Dywedodd tad-cu Ms Phillips, Desmond Phillips, wrth y cwest bod ei marwolaeth yn "sydyn, trasig ac annisgwyl".
Eglurodd bod ei wyres wedi cael llawdriniaeth ar gyfer lympiau yn ei bronnau nad oedd yn ganser ond ei bod mewn lot o boen wedyn.
"Bu'n rhaid i ni edrych ar ôl ei mab am ei bod mewn cymaint o boen.
"Roedd hi'n cymryd paracetamol i leddfu'r boen, roedd hi'n cymryd mwy na'r hyn sy'n cael ei argymell bob dydd ond doedden ni ddim yn disgwyl i hyn ddigwydd.
"Fe fu'n cymryd mwy na'r disgwyl am gyfnod o 8-9 niwrnod."
Wedi'r cwest ychwanegodd y dylai'r cyffur fod yn un ar bresgripsiwn yn unig gan ei fod yn "gallu bod yn gyffur perygl".
"Os yw mor beryglus â hyn fe ddylai fod ar bresgripsiwn.
"Mae 'na rybudd ar bacedi sigaréts a dyw pacedi paracetamol ddim yn edrych yn beryglus."
Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth rheoli cyffuriau a gofal iechyd bod paracetamol yn boen laddwr "diogel ac effeithiol".
Ymgyrch addysgu
"O'i ddefnyddio'n gywir a chymryd y dos cywir mae'n gwbl ddiogel.
"Mae 'na rybudd ar bob pecyn ynglŷn â gorddos a gwybodaeth i beidio â chymryd mwy nag wyth tabled mewn cyfnod o 24 awr."
Yn y cyfamser ddydd Gwener mae Cymdeithas Fferyllwyr Cymru wedi dechrau ymgyrch i addysgu rhieni am beryglon y cyffur paracetamol.
Mae gwaith ymchwil newydd gan y gymdeithas yn awgrymu fod diffyg gwybodaeth ynglŷn â phryd mae'n addas ei roi i blant.
Llai na chwarter o rieni Cymru sy'n adnabod symptomau gorddos paracetamol yn ôl yr ymchwil.
Maen nhw hefyd yn dweud fod rhai yn ceisio trin clefydau ac anhwylderau gyda paracetamol er na fyddai gan y cyffur fawr o effaith mewn gwirionedd.
O'r rhai gafodd eu holi roedd 17% o rieni plant o dan 12 oed ddim yn ymwybodol bod 'na baracetamol mewn Calpol, un o'r cynnyrch amlyca' sy'n cael ei roi i blant ifanc.
Yng Nghymru roedd 63% ddim yn ymwybodol bod 'na baracetamol mewn Disprol, 80% ddim yn gwybod bod y cyffur yn Medised a 71% mewn Medinol.