Abertawe 1-0 Manchester City
- Cyhoeddwyd
Does yr un tîm o'r Uwchgynghrair wedi edrych ymlaen i'w hymweliad â Stadiwn Liberty y tymor hwn, ac felly y profodd hi yn gynnar yn y gêm i'r tîm ar y brig.
Yn y munud agoriadol fe gafodd yr Elyrch gic o'r smotyn gan y dyfarnwr am drosedd gany golwr Joe Hart ar Wayne Routledge.
Ond cododd golwr Lloegr ar ei draed i arbed cynnig gwan Scott Sinclair o'r smotyn.
O'r gic gornel ddaeth o hynny, fe gafodd Abertawe gyfle arall, ond roedd Hart yno eto i arbed peniad Ashley Williams.
Fel sy'n arferol mewn gemau yn Stadiwm Liberty y tymor hwn, y tîm cartref oedd yn mwynhau mwyafrif y meddiant.
Ond er i'r ddau dîm gael cyfleoedd o flaen gôl doedd yr un o'r ddau yn medru manteisio arnynt.
Roedd rhai o chwaraewyr Manchester City yn gandryll pan na chafon nhw gic o'r smotyn yn yr ail hanner am drosedd honedig ar Mario Balotelli, ond roedd y camerâu teledu'n awgrymu mai'r dyfarnwr oedd yn gywir.
Wrth i brofiad yr ymwelwyr ddod i'r amlwg, Michel Vorm oedd y prysuraf o'r ddau golwr yn yr ail gyfnod gydag arbedion o gynigion Clichy a Nasri.
Ond y pen arall y daeth digwyddiad allweddol y gêm.
Wrth i amddiffyn yr ymwelwyr simsanu, daeth y bêl at Wayne Routledge mewn digonedd o le ar yr asgell, a daeth ei groesiad o hyd i ben yr eilydd Luke Moore i benio i'r rhwyd.
Gydag Abertawe ar y blaen, fe ymosododd yr ymwelwyr mewn tonnau, ac fe gawson nhw'n bêl i'r rhwyd dim ond i'r dyfarnwr cynorthwyol nodi bod Micah Richards yn camsefyll.
Mae record Abertawe ar y Liberty yn parhau i fod yn wych, ac roedd y canlyniad yn ergyd i obeithion Manchester City o godi'r bencampwriaeth.
Yn bwysicach i dîm Brendan Rodgers, mae'r Elyrch yn codi i'r 11eg safle, ac yn llawer sicrach o'u lle yn y brif adran y tymor nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2012