Buddugoliaeth Yr Elyrch yn erbyn Man City yn 'enfawr' yn ôl Joe Allen

  • Cyhoeddwyd
Joe Allen yn brwydro am y bêl gyda Nigel De Jong o Manchester CityFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Joe Allen yn brwydro am y bêl gyda Nigel De Jong o Manchester City

Mae chwaraewr canol cae Abertawe Joe Allen yn credu bod buddugoliaeth y clwb yn Stadiwm Liberty dros Manchester City yn arwyddo o ddatblygiad Yr Elyrch y tymor yma.

Peniad hwyr yr eilydd Luke Moore wnaeth sicrhau bod Manchester City yn disgwyl o frig tabl yr Uwchgynghrair.

Manchester City oedd gwrthwynebwyr cyntaf Abertawe yn yr Uwchgynghrair ym mis Awst pan gollodd Yr Elyrch o 4-0 yn Stadiwm Etihad.

"Mae bron fel ein bod yn dîm cwbl wahanol erbyn hyn," meddai Allen.

"Efallai ein bod wedi synnu Man City ac rydym mor falch o allu curo tîm oedd ar frig y tabl.

"Mae'n gam pwysig i ni ac yn dangos pa mor bell ry'n ni wedi dod ers yr haf.

"Rydym wedi gwella fel unigolion ac fel tîm.

"Dwi'n meddwl bod pawb wedi gwella ac ymateb i ofynion yr Uwchgynghrair.

"Ry'n ni'n symud yn y cyfeiriad cywir."

Perfformio

Dywedodd y byddai'r fuddugoliaeth yma ymhlith uchafbwyntiau ei yrfa ac yn ddiwrnod hanesyddol yn hanes y clwb.

"Roedd hi'n ddiwrnod gwych i'r chwaraewyr a'r clwb," meddai.

"Cyn y gêm, roedd ein canlyniadau yn erbyn y timau mawr yn ddigon derbyniol, doedd na ddim rheswm i ni beidio mynd allan a pherfformio."

Gôl allweddol Moore oedd ei drydedd o'r tymor.

"Dyw e ddim wedi chwarae llawer yn ddiweddar ond mae o wedi gwneud yn wych i ni," ychwanegodd Allen.

"Mae'n chwaraewr allweddol i ni ac mae pob un yn yr ystafell newid yn cytuno ei fod yn haeddu'r gôl yna."

Mae gan Abertawe 10 gêm yn weddill.

Fe fyddan nhw'n wynebu taith i Fulham ddydd Sadwrn cyn croesawu Everton i Stadiwm Liberty wythnos yn ddiweddarach ar Fawrth 30.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol