£100m i wyddorau bywyd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Busnes Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £100 miliwn mewn technoleg feddygol a'r diwydiant fferyllol yng Nghymru.
Wrth siarad mewn lansiad Bio Cymru 2012 yng Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd, dywedodd Edwina Hart y byddai'r gronfa yn buddsoddi mewn busnesau ac yn "trawsnewid" y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru.
Mae disgwyl i'r cyllid ddod o ffynonellau cyhoeddus a phreifat.
Bydd Llywodraeth Cymru'n cyfrannu £25 miliwn tuag at y gronfa yn syth er mwyn gallu buddsoddi mewn busnesau eleni.
'Blaenoriaeth'
"Mae'r buddsoddiad hwn yn un o'r ymrwymiadau mwya' gan unrhyw wlad i gronfa o'r fath yma," meddai.
"Mae'n gam arwyddocaol o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, ond mae'n adlewyrchu ein hyder yn y ffaith fod gan Gymru fanteision mawr ym maes gwyddorau bywyd, a'r ffaith ein bod yn benderfynol o fwrw 'mlaen yn syth i ddenu buddsoddwyr yma.
"Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r fenter hon yn llawn.
"Mae gwyddorau bywyd ac iechyd yn flaenoriaeth ym maes ymchwil o fewn ein strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru; tra bod gwyddorau bywyd yn un o fy mlaenoriaethau i o ran sectorau economaidd; ac mae 'na waith ymchwil a datblygu arloesol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru."
Nod y gronfa, meddai'r llywodraeth, yw sicrhau bod busnesau gwyddorau bywyd yn gallu sefydlu a ffynnu yng Nghymru.
Mae'r sector eisoes werth £1.3 biliwn i economi Cymru, ac yn cyflogi dros 15,000 o bobl drwy'r wlad.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y buddsoddiad yn galluogi busnesau i ddatblygu technolegau arloesol a fydd yn gallu cael eu trosglwyddo i'r gwasanaeth iechyd yn gyflym, gan leihau costau a gwella'r gofal i gleifion.
Ychwanegodd Ms Hart y bydd panel buddsoddi a thîm rheoli cyllid yn cael eu penodi'n fuan, fydd yn cynnwys arbenigwyr yn y maes.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2012