Hunanladdiad: Mwy o hyfforddiant i blismyn?

  • Cyhoeddwyd
Madeleine Moon, AS Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Madeleine Moon, mae rhai teuluoedd mewn galar yn ei chael hi'n anodd delio gyda'r heddlu

Mae hyfforddiant swyddogion heddlu sy'n delio gyda hunanladdiadau yn "annigonol," yn ôl Aelod Seneddol o Gymru.

Roedd Madeleine Moon yn cwestiynu sut y mae plismyn yn delio gyda theuluoedd rhai sydd wedi lladd eu hunain a sut maen nhw'n ymchwilio i achosion hunanladdiad, yn enwedig os yw'r rhyngrwyd yn ffactor.

Bu Ms Moon, sy'n cynrychioli Pen-y-bont ble oedd nifer o bobl ifanc wedi lladd eu hunain dros gyfnod o ddwy flynedd, yn siarad yn ystod trafodaeth yn Neuadd San Steffan.

Daeth i'r amlwg y gallai mwy na 20 o bobl fod wedi lladd eu hunain yn Sir Pen-y-bont rhwng 2007 a 2009.

Yn ôl gweinidog plismona'r DU, Nick Herbert, mae'r mater yn cael ei ystyried yn un difrifol iawn.

Dywedodd Ms Moon fod y mwyafrif o deuluoedd mewn galar yn ei gweld hi'n anodd iawn delio gyda'r heddlu.

Roedd rhai'n dweud y byddai wedi bod yn help cael cwnsler yn bresennol yn ystod cyfarfodydd gyda'r heddlu, meddai'r Aelod Seneddol Llafur.

'Adnodd gwerthfawr'

Cwynodd rhai teuluoedd nad oedd swyddogion yn cynnig unrhyw rifau ffôn llinellau cymorth nac yn cynnig llyfryn arbennig sydd wedi'i lunio i helpu rhai sy'n dod i delerau gyda cholli rhywun oherwydd hunanladdiad neu farwolaeth sydyn.

"Mae'r llyfryn hwn, y mae'r Adran Iechyd wedi ei gyhoeddi, yn adnodd gwerthfawr sy'n cael ei wastraffu," meddai Ms Moon.

Gofynnodd hi i'r gweinidog edrych ar hyfforddiant i'r heddlu ac a oedd 'na "gynllun ymateb brys" ar gael.

Dywedodd ei bod yn pryderu nad oedd yr heddlu'n ymchwilio'n ddigon trwyadl a oedd y we yn ffactor mewn rhai achosion hunanladdiad.

Honnodd fod yr heddlu wedi penderfynu peidio ag archwilio cyfrifiaduron unigol, gan ei gwneud hi'n anodd penderfynu beth oedd effaith y rhyngrwyd ar benderfyniad rhywun i roi diwedd ar eu bywyd.

Ychwanegodd y dylai swyddogion archwilio cyfrifiaduron unigolion a'r gwefannau a ddefnyddiwyd.

Cyfeiriodd hi at y ffaith fod y cyfryngau'n defnyddio'r we i gael gafael ar wybodaeth a lluniau rhai oedd wedi lladd eu hunain.

'Mater difrifol iawn'

Dywedodd fod teuluoedd yn cwyno eu bod yn anfodlon ar bapurau newydd yn defnyddio delweddau o wefannau cymdeithasol fel Facebook heb ofyn am ganiatâd.

Yn ôl Mr Herbert, y Gweinidog Plismona a Chyfiawnder Troseddol, roedd hyfforddiant am ddelio gyda marwolaethau sydyn a hunanladdiadau yn orfodol ac ar gael i bob heddwas.

Pwysleisiodd y gweinidog fod y llywodraeth yn ystyried y mater yn un difrifol iawn a'u bod wedi cynnal ymgynghoriad ddiwedd y llynedd.

Bydd casgliadau'r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach eleni, meddai.

Ychwanegodd Mr Herbert y gallai awduron gwefannau oedd yn annog hunanladdiad fod yn cyflawni trosedd.

"Mae gennym un amcan - i wella gwasanaethau," meddai. "Ond efallai nad yw'n addas mewn rhai achosion i roi canllawiau Prydeinig."