Leanne Wood yn penodi llefarwyr

  • Cyhoeddwyd
Leanne WoodFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Leanne Wood: "Tîm talentog o Aelodau Cynulliad"

Mae arweinydd newydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi cyhoeddi llefarwyr y blaid yn y Cynulliad.

Bydd cyn Lywydd y Cynulliad, un o'i gwrthwynebwyr yn etholiad yr arweinyddiaeth, Yr Arglwydd Elis Thomas yn llefarydd materion gwledig, pysgodfeydd a bwyd.

A bydd y cyn arweinydd, Ieuan Wyn Jones, yn gyfrifol am gyllid a materion cyfansoddiadol.

Dywedodd Ms Wood fod y tîm canlynol "yn dalentog ac ymroddgar":-

  • Arweinydd - Leanne Wood;

  • Economi ac Ynni - Alun Ffred Jones;

  • Iechyd - Elin Jones;

  • Addysg - Simon Thomas;

  • Materion Gwledig, Pysgodfeydd a Bwyd - Arglwydd Elis-Thomas;

  • Cyllid a'r Cyfansoddiad - Ieuan Wyn Jones;

  • Ewrop, Llywodraeth Leol, Cymunedau a Thrafnidiaeth - Rhodri Glyn Thomas;

  • Treftadaeth, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon - Bethan Jenkins;

  • Gwasanaethau Cymdeithasol, Plant a Chyfleoedd Cyfartal - Lindsay Whittle;

  • Amgylchedd, Tai ac Adfywio - Llŷr Huws Gruffydd;

  • Rheolwr Busnes a Phrif Chwip - Jocelyn Davies.

"Mae gan Blaid Cymru dîm gwych o Aelodau Cynulliad sydd wedi dangos dro ar ôl tro eu hymroddiad i Gymru a'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu," meddai.

"Byddwn nawr yn canolbwyntio'n gadarn ar y dyfodol - gwneud ein cymunedau yn gynaliadwy ac adeiladu economi fydd yn gallu cynnal Cymru lewyrchus."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol