All y we roi hwb i'r Wyddeleg?
- Cyhoeddwyd
Mae'r Wyddeleg yn mwynhau ychydig o adfywiad dramor a hynny diolch i'r we, ond mae'r iaith yn parhau dan fygythiad.
Yn ôl y Washington Post mae nifer y bobl sy'n siarad Gwyddeleg yn yr Unol Daleithiau wedi cynyddu.
Mae un athro dosbarthiadau ysgol nos Yn Washington DC yn credu y gallai'r cynnydd yn y diddordeb ar-lein fod yn hwb i'r iaith.
Yn ol Ronan Connolly mae hynny'n digwydd mewn cyfnod lle mae'r iaith yn dirywio yn ei chadarnleoedd dearyddol yn Iwerddon.
Mae o'n gybeithio creu 'cymuned rithwir' er mwyn ceisio adfer yr iaith.
Dywed y Washington Post fod nifer y siaradwyr Gwyddeleg wedi cynyddu o 278 ym 1998 i 409 yn 2009. Roedd y we wedi chwarae rhan bwysig.
"Pan rwy'n defnyddio gwefan Facebook, mae pobl yn ysgrifennu yn y Wyddeleg," meddai James Cooney, 30 oed, un o fyfyrwyr Mr Connolly.
Yn ôl David Crystal, sy'n Athro Anrhydeddus mewn ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor y peth pwysicaf i sicrhau bod iaith yn parhau yw cynnal ei phresenoldeb ar-lein.
"Mae dysgu ieithoedd yn llawer haws y dyddiau hyn am ei fod yn llawer haws i ddarganfod adnoddau dysgu ieithoedd ar y rhyngrwyd," meddai.
"Mae gan lawer fwy o bobl ddiddordeb i ddysgu'r iaith ond yw hyn yn rhy hwyr i achub yr iaith?"
Nid yw'r ymgyrch i achub yr iaith Wyddeleg wedi bod mor llwyddiannus ag ymgyrchoedd i warchod ieithoedd Celtaidd eraill.
'Dysgu Gwyddeleg'
"Mae gan siaradwyr Cymraeg berthynas dda gyda'r iaith," meddai Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd Yr iaith Gymraeg.
"Mae 85% o'r rheiny sy'n honni eu bod yn rhugl yn yr iaith yn defnyddio'r iaith bob dydd o'i gymharu â 20% o'r rheiny sy'n siarad Gwyddeleg."
Mae tua 80,000 o bobl yn honni eu bod yn defnyddio'r Wyddeleg yn ddyddiol ond y gred ymysg academyddion yw bod y rhif yn llawer llai.
Ond yn y degawd diwethaf mae diddordeb mewn Gwyddeleg wedi cynyddu yn Iwerddon.
"Mae llawer o bobl yn defnyddio'r system addysg i ddysgu Gwyddeleg ac i ddysgu pynciau drwy gyfrwng yr iaith hefyd," meddai Brenda Ní Ghairbhí, rheolwr dros dro Gŵyl Seachtain na Gaeilge.
Yn ôl Mait Ó Brádaigh, sy'n bennaeth Ysgol Gwyddeleg yn Swydd Galway, mae'r iaith yn goroesi yn hytrach na ffynnu.
Yn ôl un arolwg yn 2007 byddai'r Gaeltacht - cymunedau sy'n siarad Gwyddeleg - ddim yn para mwy na 20 mlynedd.