Trefnwyr Llangollen yn fodlon iawn ar werthiant tocynnau 2012

  • Cyhoeddwyd
Cyn-gystadleuwyr Eisteddfod Rhyngwladol LlangollenFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eisteddfod yn denu artistiaid o bob cwr o'r byd

Mae trefnwyr Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn fodlon iawn gyda'r sefyllfa ariannol a hynny 100 niwrnod cyn i'r ŵyl ddechrau ar Orffennaf 3 2012.

Mae 50% o'r tocynnau targed wedi eu gwerthu.

Dywed y trefnwyr mai nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar ôl ar gyfer Cyngerdd Alfie Boe tra bod cynnig arbennig ar gyfer Cyngerdd Karl Jenkins.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Llangollen, iddo roi cyfres o dargedau heriol i'w hun wrth gychwyn ar ei waith.

"Dwi'n gobeithio fod y cyngherddau eleni yn destament o'r weledigaeth glir sydd gen i ar gyfer yr ŵyl unigryw yma.

"Dwi'n hapus iawn ein bod wedi rhagori ar ein disgwyliadau o ran gwerthiant tocynnau.

"Ond dim ond un elfen ydy'r cyngherddau o'r hyn mae'r Ŵyl yn ei gynnig."

Dywedodd bod y cystadlaethau dyddiol yn y pafiliwn â'r gweithgareddau sydd ar y maes "yn rhoi gwledd ar gyfer yr holl synhwyrau ac yn arddangos talent ein cystadleuwyr ar draws y byd".

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru "wrth eu bodd" gyda syniadau "cyffrous a chreadigol" yr Eisteddfod.

"Mae Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn un o drysorau prin y genedl ac yn ddyddiad allweddol yn y calendr celfyddydol," meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.

"Mae'n bwysig iawn i dref Llangollen yn economaidd a'r economi twristiaeth ehangach wrth ddod a miloedd o ymwelwyr lleol a rhyngwladol i'r ardal bob blwyddyn.

"Mae'r cyllid mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ei ddarparu ar gyfer yr ŵyl yn gwobrwyo syniadau creadigol uchelgeisiol a dw i wrth fy modd i weld ystod eang o syniadau creadigol cyffrous."

Y cynnig arbennig ar gyfer cyngerdd Karl Jenkins "The Peacemakers" gyda Valentina Naforita, Steffan Morris a chôr mawr 300 o leisiau ar Orffennaf 6 a'r gyngerdd Finale gyda Wynne Evans, John Owen Jones, Mark Llewelyn Evans, Fflur Wyn a Chôr CF1 ar Orffennaf 8 yw cael parcio am ddim wrth ffonio a dyfynnu "100 DIWRNOD" wrth brynnu'r tocynnau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol