Son am greu 500 o swyddi mewn ardal fentergarwch yn Nhrawsfynydd
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad o flaen Cyngor Gwynedd yn trafod y gallai hyd at 500 o swyddi gael eu creu mewn ardal mentergarwch yng Ngwynedd.
Yn yr adroddiad a fydd yn cael ei drafod ddydd Mawrth mae sôn y bydd 500 o swyddi yn cael eu colli yn 2016 wedi i atomfa niwclear Trawsfynydd gael ei ddadgomisiynu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cais gan y cyngor i glustnodi'r ardal fel un mentergarwch posib gyda budd cynllunio a threth i gwmnïau.
Mae'r cynigion yn canolbwyntio ar dechnoleg ynni adnewyddol a charbon isel yn ogystal â'r sector ddata a digidol.
Ym mis Medi, fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi manylion ar gyfer pum ardal mentergarwch ar draws Cymru, yn dilyn cyhoeddiad tebyg gan Lywodraeth San Steffan am Loegr.
Doedd 'na ddim manylion am ardal o'r fath yng Ngwynedd y pryd hynny, ond cafodd cais Cyngor Gwynedd i ychwanegu Trawsfynydd i'r rhestr gymeradwyo gan weinidogion ym mis Ionawr.
Gorffen cynhyrchu
Mae disgwyl cyhoeddiad yn fuan gan y llywodraeth am union leoliad yr ardaloedd mentergarwch.
Y fantais fwya' i gwmnïoedd fydd rhyddhad ar drethi busnes yn yr ardaloedd dan sylw, llai o gyfyngiadau cynllunio a hwb i swyddi a thwf economaidd.
Fe fydd £10m ar gael yn ystod cyfnod o bum mlynedd.
Daeth y gwaith o gynhyrchu trydan i ben yn Nhrawsfynydd yn 1991 ac mae'r broses ddadgomisiynu yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Wedi i'r rhan gyntaf ddod i ben fe fydd swyddi yn cael eu colli yn ogystal â buddsoddiad o £80m y flwyddyn gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear.
Yn ôl uwch swyddogion y cyngor fe fyddai creu ardal mentergarwch yn yr ardal yn hwb i greu swyddi yn yr ardal.
Mae'r adroddiad yn dweud bod hwn yn "gyfle euraidd" i ddatblygu cynlluniau "arloesol a chyffrous" a fydd yn ail-sefydlu safle Gorsaf Bŵer Trawsfynydd ar gyfer y dyfodol ym Meirionnydd ac ar draws Gwynedd.
Ychwanegodd y byddai'r datblygiad yn bennaf ar dir brown ac y bydd yn elwa o'r gweithlu sydd ar gael eisoes yn ogystal ag atyniadau prydferth Eryri.
Mae'r adroddiad yn nodi nad ydi'r manylion wedi eu hamlinellu er bod y cyngor wedi ymrwymo i greu ffyniant economaidd yn yr ardal.
'Prinder swyddi'
"Dwi'n croesawu'r gwaith pwysig sydd wedi ei wneud i geisio sefydlu'r ardal mentergarwch yn y gobaith y bydd yn fodd o ateb dyhead y cyngor i ledu twf drwy'r sir," meddai Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Harry Thomas.
Mae gwleidyddion lleol wedi croesawu'r syniad o greu ardal mentergarwch.
"Rydym yn falch iawn bod y gweinidog mentergarwch Edwina Hart wedi gweld yr angen ac yn frwdfrydig i sefydlu'r ardal mewn rhan wledig o'r sir," meddai arweinydd y cyngor a chynghorydd Plaid Cymru, Dyfed Edwards.
"Rydym yn ffyddiog y bydd yn hwb i greu swyddi a hwb economaidd."
Dywedodd Gwen Griffiths ar ran y Blaid Lafur bod hyn yn syniad gwych gan fod 'na brinder swyddi ym Meirionnydd.
"Dwi'n cytuno gyda'r syniad o ynni adnewyddol ar gyfer Trawsfynydd - ond fyddwn i ddim yn dymuno gweld gorsaf bŵer arall."
Mae Stephen Churchman o'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn cytuno bod hyn yn syniad da.
"Mae angen gwneud rhywbeth i ddatblygu swyddi a chael arian yn yr ardal."
Mae Louise Hughes o Llais Gwynedd yn honni eu bod wedi creu'r syniad am Ardal Gyflogaeth Meirionnydd ddwy flynedd yn ôl.
"Dwi'n falch iawn bod hyn wedi datblygu i fod yn ardal mentergarwch," meddai.
"Rydym wirioneddol angen cymorth - mae'n pobl ifanc yn symud i ffwrdd... does 'na ddim gwersi yma iddyn nhw."
Dywedodd Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad ond yn siomedig bod "gweinidogion Llafur yn llusgo eu traed" wrth weithredu ar lawr gwlad.
"Rydym yn aros am y manylion ac yn disgwyl yn eiddgar i weld sut y bydd yr ardal mentergarwch yn creu swyddi angenrheidiol i ardaloedd Trawsfynydd."