Penodi Sarah Rochira yn Gomisiynydd Pobl Hŷn
- Cyhoeddwyd
Sarah Rochira fydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am gyfnod o bedair blynedd.
Hwn yw'r ail benodiad i'r swydd ers 2008 a bydd hi'n olynu Ruth Marks.
Ers 2008 Sarah oedd Cyfarwyddwr Sefydliad Brenhinol Pobl Ddall Cymru.
Mae wedi trefnu gwasanaethau a chymorth ar gyfer y 120,000 yng Nghymru sydd wedi colli eu golwg - y rhan fwya ohonyn nhw'n bobl hŷn.
Nod y comisiynydd yw eirioli ar ran pobl hŷn ac mae'n darparu gwasanaeth, gwybodaeth a chymorth i bobl hŷn yng Nghymru a'u cynrychiolwyr.
Mae gan y comisiwn bwerau cyfreithiol sy'n sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ymddwyn er budd pobl hŷn yng Nghymru.
Sefydlodd Ms Rochira, sy'n byw yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, bartneriaeth ar gyfer Strategaeth Olwg Cymru a hi yw cadeirydd etholedig Cynghrair Henoed Cymru.
Cyn hynny roedd ganddi fwy na degawd o brofiad ym maes comisiynu iechyd, llywodraethu clinigol a datblygu iechyd ar Fwrdd Addysgu Iechyd Lleol Caerffili ac Awdurdod Iechyd Gwent.
'Herio'
Dywedodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant: "Rhaid i ni werthfawrogi ein pobl hŷn yn fwy a mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran.
"Rhaid i ni herio ystrydebau, agweddau ac arferion annheg a hen ffasiwn sy'n cael effaith andwyol ar bobl hŷn.
"Bydd y comisiynydd newydd yn diffinio ei swydd yn ei ffordd ei hun ond rwy'n siŵr y bydd hi'n llwyddo i gyflawni'r holl amcanion hyn a rhagor.
"Rwy'n llongyfarch Sarah ar ei phenodiad ac yn ei chroesawu'n gynnes i'r swydd bwysig hon.
"Fe hoffwn ddiolch i Ruth Marks MBE, y cyn-gomisiynydd, am ei gwaith yn sefydlu'r comisiwn cyntaf ac yn gosod y sylfeini aar gyfer y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012