Cwmni ceir: Cynllun i gynyddu'r gweithlu i 500

  • Cyhoeddwyd
Gweithiwr Toyoda Gosei yng NgorseinonFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Prynodd cwmni Toyoda Gosei hen ffatri Valeo yng Ngorseinon yn 2011.

Mae cwmni cydrannau ceir o Japan yn bwriadu cyflogi hyd at 500 o weithwyr mewn ffatri ger Abertawe.

Prynodd cwmni Toyoda Gosei hen ffatri Valeo yng Ngorseinon yn 2011.

Dechreuodd y cwmni gynhyrchu cydrannau ceir ar ddechrau 2012.

Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n cyflogi 160 o weithwyr ar ôl buddsoddi mwy na £10m yn y ffatri.

'Hyblyg'

Dywedodd Toyoda Gosei eu bod yn ffyddiog y bydden nhw'n gallu denu busnes oddi wrth gynhyrchwyr ceir yn y Deyrnas Unedig sy'n chwilio am "gyflenwyr hyblyg".

Mae rheolwr y ffatri, Gareth Rees, wedi dweud y gall y cwmni ddenu busnes newydd.

"Yn sicr, mae gennym ni'r sgiliau yn y maes hwn ac rydym am gael y cyfle i ddangos beth rydyn ni'n gallu ei gyflawni," meddai.

Mae'r cwmni'n gobeithio cyflogi hyd at 500 o weithwyr erbyn 2017.

Roedd cwmni Ffrengig Valeo yn cynhyrchu cydrannau ceir yng Ngorseinon tan i'r ffatri gau yn 2001.

Cafodd 330 o swyddi eu colli.

Bu cwmni Amazon yn defnyddio'r safle am flwyddyn rhwng 2007 a 2008 cyn codi canolfan ddosbarthu yn Ffordd Fabian ger Abertawe.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol