Athrawon o blaid streicio
- Cyhoeddwyd
Mae'r ddau brif undeb athrawon wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol oherwydd "ymosodiadau ideolegol" ar addysg.
Penderfynodd cynhadledd yr NUT yn Torquay o blaid mwy o streiciau oherwydd toriadau i bensiynau yn y sector cyhoeddus.
Dywedodd yr undeb y byddai'n anelu at beidio â streicio yn ystod arholiadau'r haf.
Mae'r BBC yn deall bod cynadleddwyr o blaid mwy o streiciau "rhanbarthol" yn yr haf a gweithredu gydag undebau eraill yn yr hydref.
Ynghynt yn eu cynhadledd yn Birmingham pleidleisiodd undeb yr NASUWT yn unfrydol o blaid gweithredu diwydiannol yn yr hydref.
Cyfeiriodd trysorydd yr undeb, Brian Cookson, at yr "ymosodiadau mileinig" ar amodau gwaith athrawon.
"Mae addysg yn y llinell flaen oherwydd yr ymosodiad hwn ar y sector cyhoeddus.
'Rhyfel'
"Rhaid i ni amddiffyn ein hunain oherwydd yr ymosodiadau ar gyflog, pensiynau a'n hawliau," meddai.
Dywedodd y dirprwy brifathro, Martin McCusker, fod y llywodraeth wedi "cyhoeddi rhyfel" ar athrawon ac mai addysg ac iechyd oedd y "targedau mawr" ar ôl yn y sector cyhoeddus.
Bydd arweinyddiaeth yr undeb yn trefnu ymgyrch fydd yn cynnwys gweithredu nad yw'n cynnwys streicio - a pharatoi ar gyfer pleidlais ar gyfer streicio.
"Y broblem yw bod ymyrraeth y llywodraeth yn rhwystro athrawon rhag codi safonau ar gyfer disgyblion," meddai Chris Keates, yr ysgrifennydd cyffredinol, cyn y ddadl yn y gynhadledd.
68
Mae newidiadau pensiwn yn golygu mwy o gyfraniadau a chodi'r oedran ymddeol i 68.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Addysg: "Hon yw'r fargen orau o dan yr amgylchiadau.
"Mae'n gwarantu un o'r pensiynau gorau i athrawon ac yn lleihau costau cynyddol i'r trethdalwr.
"Rydym wedi bod yn trafod â'r undebau am fisoedd ac wedi ceisio ymateb i'w pryderon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2011