Is-Lywydd newydd i'r Llyfrgell Genedlaethol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Athro Aled Jones wedi cael ei benodi yn Is-lywydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Fel Is-lywydd bydd yn hyrwyddo'r Llyfrgell a'i gwaith, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd hefyd yn cynrychioli'r Llyfrgell wrth drafod â Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Os bydd angen fe all ymgymryd â swyddogaethau Llywydd y Llyfrgell, Syr Deian Hopkin.
Mae'r Athro Jones yn Ddirprwy Is-Ganghellor Hŷn Prifysgol Aberystwyth ac mae'n arbenigo yn hanes y Gymru fodern.
Mae wedi gweithio'n helaeth ym maes y casgliadau yn y Llyfrgell Genedlaethol ers 1976, ac ymunodd â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2009.
'Cyfrifoldeb'
Nid yw'n dal unrhyw benodiadau cyhoeddus gweinidogol arall.
"Mae cael fy mhenodi i swydd Is-lywydd y Llyfrgell Genedlaethol yn bleser, yn anrhydedd ac yn gyfrifoldeb mawr," meddai'r Athro Jones.
"Fel defnyddiwr brwd y gwasanaethau gwych mae'r Llyfrgell yn eu darparu, rwy'n ymwybodol o bwysigrwydd y sefydliad hwn i ddiwylliant Cymru a'r bywyd Cymreig yn gyffredinol.
"Ar yr un pryd, rwy'n ystyried y Llyfrgell fel ffenestr sy'n ein galluogi ni i gael cipolwg ar amrywiaeth ehangach o wybodaeth o ledled y byd, ac i ymddiddori yn yr wybodaeth honno.
"Edrychaf ymlaen gyda'r brwdfrydedd mwyaf at y gwaith o gefnogi cenhadaeth y Llyfrgell, ac i weithio'n agos gyda staff a defnyddwyr y Llyfrgell, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a Syr Deian Hopkin, y Llywydd newydd."
Dywedodd Syr Deian Hopkin, ei fod wrth ei fodd bod Yr Athro Aled Jones wedi ei benodi.
"Mae'n hanesydd uchel ei barch sydd â phrofiad cyfoethog o reoli mewn prifysgol ac mae'n hynod o ymroddedig i'r Llyfrgell.
"Edrychaf ymlaen at weithio'n agos gydag ef ac aelodau eraill o'r Bwrdd i gefnogi'r Llyfrgellydd a'r staff i wireddu uchelgeisiau'r Llyfrgell."
Mae penodiad yr Athro Aled Jones yn dilyn cyfnod Arwel Ellis Owen fel Is-lywydd, a ddaeth i ben ar Dachwedd 30 2011.
Bydd ei gyfnod yn dechrau ar Fai 1 2012 a bydd yn para am bedair blynedd.