Buddsoddiad £800m gan Tata yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Cwmni Dur TataFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r buddsoddiad yng Nghymru wedi cael croeso

Mae cwmni dur Tata wedi cyhoeddi buddsoddiad o £800 miliwn yng Nghymru dros y pum mlynedd nesa'.

Mae'r cyhoeddiad wedi cael croeso gan Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Yr wythnos diwethaf bu Mr Jones yn cyfarfod is-gadeirydd y cwmni dur yn India yn ystod ei ymweliad â'r wlad.

Mae tua 8,000 yn gweithio i Tata yng Nghymru gyda gwaith mewn nifer o safleoedd yma gan gynnwys Llanwern, Port Talbot a Shotton.

Dywedodd datganiad Tata y bydd yr "arian newydd yn fynegiant o'u bwriad a'u gweledigaeth ar gyfer Port Talbot a'r diwydiant dur yng Nghymru".

Yn ôl Mr Jones mae'r cyhoeddiad yn arwydd o hyder y cwmni yng Nghymru.

Swyddi newydd

Eglurodd fod y cyfarfod gyda B Muthuraman yn Mumbai yr wythnos diwethaf yn gyfle iddyn nhw drafod y ffordd ymlaen i'r cwmni yng Nghymru.

"Roedd hefyd yn gyfle i drafod parhad partneriaeth Llywodraeth Cymru gyda'r cwmni," meddai.

"Dwi'n gobeithio y bydd y buddsoddiad yma, nid yn unig yn diogelu swyddi ond y bydd swyddi newydd yn cael eu creu yn y dyfodol.

"Dwi'n gobeithio hefyd y bydd cyhoeddiadau eraill yn deillio o'r cyfarfod yn India yr wythnos diwethaf.

"Roedd 'na gryn ddiddordeb yng Nghymru."

Mae Tata eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiadau o £240 miliwn ar gyfer gwaith dur Port Talbot gyda £185 miliwn tuag at ffwrnais newydd a £53 miliwn i ddiweddaru'r adran gynhyrchu.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni dur Tata nad yw'r buddsoddiad yma wedi ei gyhoeddi o'r blaen.

Eglurodd Mr Jones fod Mr Muthurman wedi talu teyrnged i safon y gweithwyr sydd ar gael yng Nghymru.

"Dywedodd mai Port Talbot yw un o'r safleoedd cynhyrchu dur gorau yn Ewrop," meddai Mr Jones.

Pwll glo

"Mae'n hwb sylweddol i Gymru," ychwanegodd.

Dywedodd Robert Edwards o undeb Community, sy'n cynrychioli rhai o weithwyr Tata yng Nghymru, fod rhaid rhoi'r cyhoeddiad yng nghyd-destun yr hyn sydd wedi digwydd dros y degawd diwethaf.

"Rydym wedi gweld gwaith trwm yn cau yn Llanwern ac mae gweithfeydd wedi cau.

"Mae Tata wedi dod i mewn ac wedi buddsoddi bob blwyddyn ers iddyn nhw fod yn berchen ar y gwaith.

"Mae'n newyddion gwych.

"Mae 'na son am greu pwll glo newydd ym Mhort Talbot yn y dyfodol.

"Mae 'na wythïen yn yr ardal ac fe fyddai hyn yn fuddsoddiad sylweddol."

Dywedodd Tata y gallai'r buddsoddiad pwll glo greu hyd at 500 o swyddi wrth i'r glo gael ei gloddio a'i ddefnyddio i greu dur.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol