Llafur: 'Anfonwch neges i Cameron'
- Cyhoeddwyd
Mae Llafur Cymru yn annog pleidleiswyr i anfon neges i David Cameron a Nick Clegg am yr economi a newidiadau trethi yn etholiadau lleol y mis nesaf.
Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi addo "math newydd" o ymgyrch, a dywedodd fod etholiadau Mai 3 yn "hanfodol" i'w blaid.
Bydd yn teithio ar draws Cymru wrth geisio sicrhau bod pobl yn pleidleisio, yn ôl Llafur.
Bydd Llafur Cymru yn talu teyrnged i waith ffyddloniaid y blaid mewn digwyddiad yng Nghasnewydd ddydd Mawrth, ond nid yw'r blaid yn cyhoeddi maniffesto cenedlaethol, gan ddweud na fydd yn gwneud addewidion i bawb.
Fe fydd yr etholiad ar Fai 3 mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol.
Does 'na ddim etholiad yn Ynys Môn gan fod yr etholiadau yno wedi eu gohirio am flwyddyn. Mae'r cyngor yn cael ei redeg gan gomisiynwyr.
Gwelliant
Bydd y blaid yn gobeithio am welliant mawr ers yr etholiadau lleol diwethaf yn 2008.
Cafodd Llafur Cymru noson wael bedair blynedd yn ôl wrth weld eu cyfran o'r bleidlais yn disgyn o 5.5% tra'n colli rheolaeth ar nifer o gynghorau mewn ardaloedd oedd yn draddodiadol yn gryf iddynt.
Ond Llafur yw'r blaid fwyaf mewn llywodraeth leol yng Nghymru o bell, ac mae ganddi fwy o ymgeiswyr na'r un blaid arall.
Dywedodd Mr Jones: "Mae hon yn ymgyrch wahanol iawn gan Llafur Cymru.
"Nid ymgyrch o'r top i lawr fydd hon, fel y gwelwch gan y Ceidwadwyr a'r lleill - ond math newydd o ymgyrch Lafur sy'n seiliedig ar straeon, galluoedd a gweithgareddau cymunedol ein pobl.
"Mae'r etholiadau lleol ar Fai 3 yn hanfodol i Lafur Cymru - maen nhw'n etholiadau hanfodol i Gymru."
Gwawdio
Ychwanegodd: "Dim ond pleidlais i Lafur fydd yn gyrru neges at David Cameron a Nick Clegg.
"Dim ond pleidlais i Lafur fydd yn gyrru'r neges bod rhaid iddyn nhw weithredu - fel yr ydym yn gwneud yma yng Nghymru - i daclo diweithdra ymysg yr ifanc.
"Dim ond pleidlais i Lafur fydd yn gyrru'r neges bod Cymru yn gwrthod y gyllideb Geidwadol-Democrat Rhyddfrydol sy'n rhoi manteision treth i filiwnyddion gyda chodiadau treth i'n pensiynwyr - a'r creulondeb o dorri cefnogaeth i deuluoedd mewn gwaith sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd - yn talu amdanynt."
Dywedodd llefarydd Llafur dros Gymru, Peter Hain, fod y Ceidwadwyr yn cynnal ymgyrch sy'n cael ei "gorchymyn o Lundain", ac fe wawdiodd y cwymp yn nifer ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol.