Cyngor sir o blaid marina

  • Cyhoeddwyd

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Penfro wedi cymeradwyo marina newydd yn harbwr Abergwaun.

Fe allai 250 o fflatiau gael eu codi fel rhan o'r datblygiad a bydd 'na le ar gyfer 450 o gychod.

Mae'r cynllun yn cyfeirio at ddeorfa gimwch, amgueddfa forwrol a sw'r môr.

Hefyd gallai sinema, ysbyty ar gyfer morloi a cherflun yn debyg i Angel y Gogledd ger Gateshead gael eu codi.

Cwmni Conygar a'r cwmni fferi Stena Line gyflwynodd y cais cynllunio i'r cyngor sir.

Y gred yw bydd y datblygiad yn costio mwy na £100m.