Galw am 'eglurder' am roi organau
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas y Gyfraith wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eglurder am rôl y teulu pe bai deddf newydd am roi organau yn cael ei chyflwyno.
Daw'r sylwadau fel ymateb i ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth fyddai'n cyflwyno caniatâd tybiedig i roi organau oni bai bod gwrthwynebiad yn cael ei nodi.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi dweud na allai ddychmygu y byddai organau yn cael eu tynnu pe bai teulu'r ymadawedig yn gwrthwynebu.
Ond mae Cymdeithas y Gyfraith yn rhybuddio nad yw rôl y teulu yn gwbl eglur.
Nodi gwrthwynebiad
Roedd ymateb Cymdeithas y Gyfraith, sy'n cynrychioli cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, yn un o fwy na 1,000 o gyflwyniadau i'r broses ymgynghori a ddaeth i ben ym mis Ionawr.
Mae Llywodraeth Cymru am gyflwyno system lle bydd rhaid i bobl nodi gwrthwynebiad os nad ydyn nhw am gael eu cynnwys ar gofrestr rhoi organau.
Cafodd manylion yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad eu cyhoeddi ddydd Mercher ynghyd â chanlyniadau ymchwil a gomisiynwyd gan y llywodraeth.
Ar fater rôl y teulu, mae papur gwyn y llywodraeth yn datgan ei safbwynt gan ddweud: "Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd rôl y teulu mewn system o ganiatâd tybiedig.
"Bydd dymuniadau'r ymadawedig yn cael eu parchu, ac er mwyn gwneud hynny mae'n hanfodol bod y teulu yn rhan o'r broses."
Ond mae Cymdeithas y Gyfraith yn honni bod sylwadau eraill yn y cynllun yn awgrymu dryswch ynglŷn ag a fyddai gan aelod o'r teulu feto yn erbyn rhoi organau.
'Camarweiniol'
Yn ei ymateb, dywedodd y Gymdeithas: "Un elfen yn y system arfaethedig yw cynnwys rôl i'r teulu.
"Ond mae'r cynnig yn awgrymu y bydd y rôl yna'n gwarchod dymuniadau'r ymadawedig yn unig.
"Drwy gyfeirio at rôl y teulu heb ddatgan yn glir na all y teulu wrthod caniatâd i dynnu organau, mae'r papur yn gamarweiniol."
Ym mis Mawrth, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, na allai "rhagweld meddyg yn tynnu organau os fyddai'r teulu ddim am i hynny ddigwydd".
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y byddai'r system newydd yn golygu y byddai'r teulu yn ymwybodol o ddymuniadau'r claf, ac os oedden nhw wedi gwrthod cofrestru fel rhoddwr.
Dryswch
Mae Roy Thomas o Sefydliad Aren Cymru wedi cefnogi'r cynllun o ganiatâd tybiedig, ond dywedodd ei fod yn credu y dylai'r teulu gael y gair olaf am roi organau.
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Rydym yn credu y dylai'r teulu gael gwneud hynny - mae mor syml â hynny.
"Mae'n gyfnod anodd, ac ni ddylem weld meddygon yn tynnu organau heb drafod gyda'r teulu."
Ond mae'r dryswch am rôl y teulu yn amlwg hefyd yn yr ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymgynghoriad.
Mae awduron yr ymchwil yn nodi: "Y pryder mwyaf o safbwynt y rhai fydd yn rhan o'r system yw diffyg eglurder am ddylanwad aelodau'r teulu, a'r canfyddiad y gallai aelodau'r teulu wyrdroi dymuniadau'r ymadawedig.
"Does dim dealltwriaeth eang am yr angen i gynnwys y teulu yn y broses."

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2011