Mwyafrif o blaid newid trefn rhoi organau
- Cyhoeddwyd
Mae mwyafrif y rhai wnaeth ymateb i ymgynghoriad yn achos cyflwyno trefn caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau o blaid y newidiadau.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o'r ymatebion ddydd Iau.
Mae 52% o'r rhai ymatebodd o blaid y cynigion a 39% yn erbyn.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, y byddai'r llywodraeth yn cyhoeddi bil drafft cyn yr haf.
"Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno system optio allan rhoi organau allai gynyddu o 25% nifer yr organau sy'n cael eu rhoi, yn ôl y dystiolaeth."
'Yn bwysig'
Mae disgwyl i'r mesur gael ei basio yn 2013, gan baratoi'r ffordd ar gyfer y system gynta' o'i bath yn y DU.
Byddai'r drefn newydd yn dechrau yn 2015.
Doedd yr ymgynghoriad ddim yn gofyn yn benodol a oedd pobl o blaid neu yn erbyn ond o'r 1,234 ymatebodd roedd 646 o blaid a 478 yn erbyn.
"I bobl sydd angen trawsblaniad ... mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig iawn," meddai.
"Er bod cynnydd wedi bod yng Nghymru yn ddiweddar yn nifer yr organau a meinwe sy'n cael eu rhoi, ar gyfartaledd mae un person yr wythnos yng Nghymru yn marw yn aros am drawsblaniad oherwydd diffyg rhoddwyr addas.
"Mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig wedi arwain at drafodaeth ddiddorol.
"O ganlyniad, rydyn ni wedi cael cyfraniadau craff i'r ymgynghoriad ac rwy'n ddiolchgar amdanyn nhw.
"Yn y cyfamser, mae'n bwysig bod pobl yn trafod eu dymuniadau gyda'u teulu a'u ffrindiau ac yn ymuno â'r gofrestr rhoi organau."
Mewn arolwg a wnaed ar ran BBC Cymru yn ddiweddar roedd y mwyafrif helaeth o blaid y newid arfaethedig.
Caniatâd teuluol
O dan gynlluniau Llywodraeth Cymru byddai organau pawb ar gael i'w rhoi ar ôl marwolaeth os na fydden nhw wedi dewis peidio â rhoi.
Byddai teuluoedd yn colli'r hawl gyfreithiol i atal tynnu organau eu perthnasau marw ar gyfer eu trawsblannu.
Ond dywedodd y gweinidog na allai hi ddychmygu sefyllfa ble byddai meddyg yn gweithredu heb ganiatâd y teulu.
Byddai'r system yn berthnasol i bobl fyddai wedi byw yng Nghymru'n ddigon hir i wybod bod angen iddyn nhw ddatgan eu gwrthwynebiad os yn briodol.
Yn ôl yr ystadegau diweddara, mae 'na 27.7 fesul miliwn yn rhoi organau yng Nghymru tra bod cyfartaledd o 16.3 fesul miliwn trwy'r DU.
Yn 2010 roedd Cymru uwchlaw nifer o wledydd eraill yn Ewrop, gan gynnwys Ffrainc (23.8 fesul miliwn), Yr Eidal (21.6 fesul miliwn) a Gwlad Belg (20.5 fesul miliwn), sydd eisoes â systemau o ganiatâd tybiedig.
Er bod 83 o bobl wedi rhoi eu horganau yng Nghymru yn 2010 - y nifer ucha' erioed - dywed Llywodraeth Cymru fod 'na brinder yn dal i achosi marwolaethau a diodde' dianghenraid.
'Dim tystiolaeth'
Mae gwrthwynebwyr wedi dweud nad oes tystiolaeth y byddai newid y ddeddf yn gweithio.
Dywedodd yr Athro John Fabre, cyn-lywydd y Gymdeithas Trawsblaniadau Prydain, nad y ffaith fod Sbaen wedi cyflwyno system o ganiatâd tybiedig oedd yn gyfrifol am y ffaith fod 'na gymaint o bobl yn rhoi organau yno.
"Beth sydd ganddyn nhw yw darpariaeth gofal dwys gwych, mae 'na gydlynu ardderchog o ran trawsblaniadau ac mae ganddyn nhw gysylltiadau cyhoeddus da iawn," meddai.
"Mae hynny wedi cymryd 20 mlynedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2011