Howley wrth y llyw dros yr haf

  • Cyhoeddwyd
Rob Howley a Warren GatlandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rob Howley wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Cymru o dan reolaeth Warren Gatland

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi Rob Howley fel hyfforddwr dros dro i Gymru ar gyfer gemau'r haf yn erbyn y Barbariaid ac Awstralia.

Daw'r cyhoeddiad er mwyn caniatáu i Warren Gatland wella o anaf a gafodd mewn damwain yn ei gartref yn Seland Newydd.

Mae Gatland ei hun wedi cymeradwyo'r penodiad, ac fe fydd gan Howley reolaeth lwyr o bob agwedd o baratoadau'r tîm ar gyfer y gemau dan sylw.

Dywedodd prif weithredwr yr Undeb, Roger Lewis, y byddai'r penderfyniad yn cynnig sicrwydd i chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr ar drothwy cyfnod prysur i'r tîm cenedlaethol.

Bydd Cymru'n herio'r Barbariaid ar Fehefin 2 cyn dechrau taith anferth i Awstralia. Bydd y daith yn cynnwys tair gêm brawf ynghyd â gêm ganol wythnos yn erbyn rhanbarth y Brumbies rhwng y ddwy gêm brawf gyntaf.

'Siom aruthrol'

Mae meddygon wedi dweud na fydd Gatland yn holliach cyn gêm y Barbariaid, a hyd yn oed os fydd wedi gwella'n ddigon da i deithio i Awstralia ar gyfer dwy gêm ola'r daith, Howley fydd yn aros yng ngofal y tîm.

Dywedodd Warren Gatland: "Er ei bod yn siom aruthrol nad wyf yn medru bod yn rhan o'r chwarae rwyf wrth fy modd bod gennym rywun o safon Rob i gymryd yr awenau yn fy absenoldeb.

"Mae hi wedi bod yn anodd derbyn y cyngor meddygol, ond mae wedi fy ngwneud yn fwy penderfynol fyth o fod yn ôl ar ddiwedd yr haf wrth i Gymru baratoi am gyfres yr Hydref sy'n cynnwys gemau yn erbyn Seland Newydd ac Awstralia.

"Rwy'n gwybod bod gan Rob ei ddull ei hun fel hyfforddwr, ond mae'r ddau ohonom yn rhannu gweledigaeth am y gêm ryngwladol, ac mae'r chwaraewyr a'r hyfforddwyr yn gwybod beth sydd i'w ddisgwyl ganddynt."

Cafodd Gatland ei anafu wrth ddisgyn yn ei gartref ar draeth Waihi, gan dorri sawdl ei ddwy droed.

Mae Rob Howley wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Warren Gatland ers y dechrau. Fel chwaraewr, enillodd 59 o gapiau i Gymru fel mewnwr, ac fe enillodd ei gap cyntaf yn 2001 yn erbyn y Barbariaid.