Alex Cuthbert i adael y Gleision?

  • Cyhoeddwyd
Alex CuthbertFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alex Cuthbert wedi cael ei gysylltu â chlybiau yn Ffrainc

Dywed chwaraewr y Gleision Alex Cuthbert ei fod yn gobeithio penderfynu a fydd yn aros â'r rhanbarth ai peidio'r wythnos hon.

Mae'r asgellwr 22 oed sydd wedi chwarae chwe gwaith dros Gymru ac mae o wedi cael ei gysylltu â'r clybiau o Ffrainc, Toulon a Racing Metro.

Mae'r Gleision wedi cynnig cytundeb chwe ffigwr i'r asgellwr aros yng Nghaerdydd.

Mae nifer o chwaraewyr rhyngwladol gan gynnwys Gethin Jenkins, John Yapp, Richie Rees a Rhys Thomas, eisoes wedi penderfynu gadael y Gleision ar ddiwedd y tymor.

"Rwy'n gobeithio trefnu popeth yr wythnos hon," meddai Cuthbert wrth raglen BBC Cymru, Scrum V, wedi buddugoliaeth y Gleision yn erbyn Caeredin ddydd Sul.

Sgoriodd Cuthbert dri chais yn erbyn y tîm o'r Alban wrth iddyn nhw ennill 38-13.

"Yn amlwg mae'n rhaid i mi a'm teulu feddwl am lawer o bethau cyn meddwl am y dyfodol," meddai Cuthbert.

Fe wnaeth o sgorio ceisiau pwysig yn erbyn Yr Alban, Yr Eidal a Ffrainc wrth i Gymru ennill y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol