Taith Jiwbilî Y Frenhines yn cyrraedd Merthyr

  • Cyhoeddwyd
Protest y tu allan i Lyfrgell Merthyr Tudful gan rai yn gwrthwynebu'r FrenhiniaethFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr tu allan i Lyfrgell Merthyr

Ar ddiwedd diwrnod cyntaf ei thaith Jiwbilî Ddiemwnt yng Nghymru ymwelodd y Frenhines â Merthyr Tudful.

Roedd y daith wedi cychwyn yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd cyn gwasanaeth diolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Dywedodd yr heddlu fod dau wedi eu harestio mewn digwyddiadau ar wahân ym Merthyr.

Cafodd un ei arestio am geisio cyrraedd rhan heol oedd wedi ei chau a chafodd y llall ei arestio ar amheuaeth o dor-heddwch ger tir Castell Cyfarthfa.

Bore Llun roedd hi a Dug Caeredin mewn gwasanaeth yn yr eglwys gadeiriol i nodi 60 mlynedd ers dechrau ei theyrnasiad.

Hwn oedd pedwerydd ymweliad Y Frenhines i'r eglwys lle oedd y gwasanaeth o dan arweiniad Deon Llandaf, John Lewis.

Canmolodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, Y Frenhines am nad oedd yn anwybyddu rôl ffydd ym mywyd pobl gwledydd Prydain ac oherwydd ei hymrwymiad i wasanaethu cyhoeddus.

Roedd dros 600 yn y gwasanaeth, gan gynnwys cynrychiolwyr gwleidyddol, ac eithrio Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru, wrthododd wahoddiad.

Protest

"Llongyfarchiadau i'r Frenhines wrth iddi ddathlu 60 mlynedd," meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wrth annerch y gynulleidfa.

"Dwi'n siŵr bod pobl Cymru yn rhoi'r croeso cynnes iddi wrth iddi hi gychwyn ei hymweliad â Chymru i ddathlu'r Jiwbilî Diemwnt."

Y tu allan i'r eglwys fe brotestiodd aelodau Gweriniaeth Gymru.

Wedi'r gwasanaeth cafodd Y Frenhines a'r Dug ginio ym Mharc Margam a chyfle i gyfarfod â thîm rygbi Cymru enillodd y Gamp Lawn.

Yno hefyd roedden nhw mewn gŵyl gymunedol cyn ymweld ag Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ac Amgueddfa Castell Cyfarthfa ac Oriel ym Merthyr.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines yn cyrraedd Eglwys Gadeiriol Llandaf ddydd Iau

Yn yr amgueddfa gwelodd Y Frenhines y chwiban stêm gyntaf, y blwch pleidleisio cyntaf a gwisgoedd Laura Ashley a Julien McDonald.

Fe wyliodd hi a'r Dug weithgareddau tîm achub mynydd lleol, sgowtiaid Merthyr a'r Comisiwn Coedwigaeth.

Roedd tua 40 o bobl, anarchwyr, aelodau Cymdeithas yr Iaith a Chymru Goch ym Merthyr Tudful yn protestio.

Dydd Gwener fe fydd y ddau'n mynd i Aberfan, Glyn Ebwy a Pharc Glanwysg ger Crughywel.