Dim clwb stripio ger capel

  • Cyhoeddwyd
Clwb a chapelFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddau adeilad y drws nesa' i'w gilydd

Fydd clwb stripio ddim yn cael agor eto'r drws nesa' i gapel Bedyddwyr yn Abertawe er gwaetha'r ffaith fod rheolwr Clwb Bellissima wedi cael trwydded.

Mae prydles yr adeilad yn York Street yn eiddo i'r cyngor a dyw stripio ddim yn unol â thelerau'r brydles.

Thomas-Bellis Leisure yn Abertawe oedd wedi gwneud y cais.

Dywedodd y cyngor fod y pwyllgor trwyddedu wedi cytuno â'r cais mewn egwyddor gyda 63 o amodau.

Wedi penderfyniad y pwyllgor mae'r cyngor wedi adolygu pynciau trafod perthnasol, gan gynnwys amodau.

"Gan mai ni yw'r landlord byddai rhaid iddo gytuno i newid defnydd yr adeilad," meddai'r cyngor.

"Gan fod y brydles yn bwnc trafod ar wahân nid oedd modd i'r pwyllgor ei thrafod."

Deiseb

Yr wythnos ddiwetha' penderfynodd y pwyllgor trwyddedu ohirio penderfyniad ynglŷn â chaniatáu trwydded.

Roedd 800 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cais.

Roedd adroddiad gerbron cynghorwyr yn dweud bod yr ymgeisydd yn bwriadu "defnyddio'r adeilad ar gyfer adloniant perthnasol all gynnwys dawnsio polyn a sioeau stripio."

Yn ôl yr adroddiad, byddai'r ymgeisydd yn defnyddio'r adeilad rhwng 10pm a 4am o ddydd Llun tan ddydd Sul.

Yn eu llythyr at y cyngor, dywedodd y capel fod y cais yn golygu "defnydd anaddas o'r adeilad am fod y gweithgaredd yn cael ei ystyried yn ffurf o ymelwa yn hytrach na gweithgaredd fyddai'n arferol ar gyfer y math hwn o adeilad."

'Ffyddiog'

Ychwanegodd y llythyr fod y "lleoliad yn hollol anaddas ar gyfer y math hwn o fenter, nid yn unig am ei fod drws nesaf i'r eglwys, ond oherwydd byddai'r fenter yn agos i atyniadau sy'n cael eu defnyddio gan bobl ifanc a theuluoedd...".

Dywedodd Paul Thomas, Cyfarwyddwr cwmni Thomas-Bellis Leisure:

"Mae'r cyfreithwyr ac adran gyfreithiol y cyngor yn delio gyda'r newid defnydd - mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers dechrau'r flwyddyn. Mae pobl ochr yn gweithio tuag at ddatrys y sefyllfa'n sydyn.

"Gyda'r cais am drwydded wedi llwyddo, rydym yn ffyddiog o gael canlyniad cadarnhaol. Hoffai Thomas-Bellis Leisure ddiolch i'r cyhoedd am y gefnogaeth mae Bellissima wedi'i dderbyn hyd yma."