Y gantores Casi Wyn yn cofio cyd-ganu gydag Ozzy Osbourne

Dywedodd Ozzy Osbourne yn ei gig olaf. "Does gennych chi ddim syniad sut rwy'n teimlo. Diolch o waelod fy nghalon"Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ozzy Osbourne yn ei gig olaf: "Does gennych chi ddim syniad sut rwy'n teimlo. Diolch o waelod fy nghalon"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gantores Casi Wyn wedi talu teyrnged i Ozzy Osbourne sydd wedi marw yn 76 oed, fel un sydd wedi cyd-ganu ar sengl gyda'r eicon metel trwm - a phrif leisydd Black Sabbath.

Yn 2022, fe ryddhawyd cân elusennol Nadolig This Christmas Time drwy fenter ac elusen The Evamore Project, dolen allanol i godi arian at ymchwil canser; The Cancer Awareness Trust a The Cancer Platform.

Yn dilyn intro'r gân, lle mae Ozzy i'w glywed yn darllen llythyr hanesyddol wedi ei ysgrifennu gan un o filwyr y rhyfel byd cyntaf, mae Casi'n dechrau canu dan gyfeiliant mawrion fel Nick Mason - drymiwr Pink Floyd, Sir Chris Evans, y diweddar bianydd a mab Andrew Lloyd Webber - Nick Lloyd Webber, a gitarydd Duran Duran, Andrew Taylor.

Dywedodd Taylor ar y pryd, "roedd hi'n fraint gweithio gyda cherddorion mor aruthrol ac amrywiol."

Ymateb Ozzy Osbourne i lais Casi

Casi sy'n cofio'r gwahoddiad i ganu ar yr un trac ag un sydd wedi gwerthu dros 100 miliwn o albymau ledled byd:

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Ges i fy ngwahodd i ganu'r gân ryfeddol hon ryw ddwy flynedd yn ôl - cân sydd wedi ei hysbrydoli gan lythyrau go iawn a ysgrifennwyd gan rai o filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf. Cân Nadolig ydi hi - a'r neges yn un o heddwch.

"Nick Mason, drymiwr Pink Floyd sydd ar y curiad - ac o fy safbwynt i mae bod yn rhan o gyfanwaith lle mae'r bobl yma i gyd yn rhan ohono yn hollol cŵl a hyfryd, ac yn ddiddorol hefyd achos bod cerddoriaeth pob un o'r cerddorion sydd ynghlwm â'r gân mor wahanol i'w gilydd - a bod pawb yn perthyn i is-ddiwylliant cerddorol mor unigryw.

"Mae'r gân wedi ei mastero gan Brian Eno a John Reynolds sydd hefyd wedi bod yn gefnogol iawn o'm llais a 'ngwaith fel cantores. Felly profiad tu hwn o bositif oedd bod yn rhan o'r fenter elusennol yma."

Y gantores Casi WynFfynhonnell y llun, Carys Huws
Disgrifiad o’r llun,

Y gantores Casi Wyn

Er fod pawb ar wasgar wrth recordio'r gân ac na wnaeth Casi ac Ozzy gyfarfod yn y byw, roedd clywed bod Ozzy'n hoff o'i llais yn braf:

"Wnes i erioed ei gyfarfod o wyneb yn wyneb, ond yn ôl pob tebyg roedd o wrth ei fodd hefo'n llais i ac yn falch iawn o'r gân."

Yng Nghymru recordiodd Casi ei llais ar gyfer y gân tra bod Ozzy yn Los Angeles, ac elfennau eraill wedi eu recordio yn Abbey Road Studios yn Llundain.

Felly faint o ffan oedd Casi o Ozzy Osbourne pan dderbyniodd hi'r gwahoddiad i ganu?

"Nes i dyfu i fyny'n gwylio MTV felly dyna'r ateb ichi - ond na, dwi'n gyfarwydd hefo Black Sabbath," meddai.

Cyfraniad diwylliannol a cherddorol

Yn ôl Casi bydd cenhedlaeth iau o bobl yn gwrando ar ganeuon Ozzy a Black Sabbath rŵan, ond mae hefyd yn bwysig cofio ei gyfraniad fel ffigwr diwylliannol:

"Mae o wedi ysbrydoli ffasiwn a delweddaeth gerddorol, ddiwylliannol hollol unigryw. Dyna oedd yn braf am fod yn rhan o'r trac - roedd yr holl beth yn teimlo'n wreiddiol ac yn unigryw - dim ond unwaith wyt ti'n gallu cyd-gynhyrchu rhywbeth fel hyn hefo cyfuniad mor arbennig ac eang o gerddorion."

Dywed Casi bod "rhywbeth iasol a hyfryd" yn y ffaith fod llais cerddorion yn parhau ar draciau am byth.

Mae'n debyg y byddai rhoi llais tyner, eneidiol Casi ar yr un trac ag eicon cerddoriaeth metel trwm yn swnio'n gywaith annisgwyl i nifer, ond mae gan Casi barch mawr at gerddoriaeth metel trwm a'r gymuned ynghlwm â'r genre.

Meddai: "Mae lot o'n ffrindiau i sydd yn licio heavy metal yn rhai o'r bobl fwyaf addfwyn a sensitif dwi'n eu hadnabod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig