Twyllwr neu ffantasydd? Hanes yr ŵyl enfawr na ddigwyddodd

Roedd James Kenny wedi honni ei fod yn rhedeg y bar cefn llwyfan yng ngwobrau'r National Television Awards, ond yn ôl ei reolwyr roedd o yno fel aelod staff dros dro
- Cyhoeddwyd
Roedd yn argoeli i fod yn un o wyliau mwyaf y DU, gyda bandiau fel The Killers, Pulp, Def Leppard, Wet Leg a The Libertines yn perfformio.
Digwyddiad tri diwrnod dros ŵyl y banc fis Awst eleni yn ne Cymru, gyda lle i 45,000 o bobl, a honiad ei fod yr ŵyl gyntaf yn y byd i gael ei bweru gyda hydrogen.
Ond y broblem oedd, roedd y cyfan wedi'i seilio ar gelwyddau.
Mae ymchwiliad gan BBC Cymru wedi datgelu sut y gwnaeth y "ffantasïwr" a'r twyllwr James Kenny gynllunio gŵyl ffug o gegin ei fam oedrannus.
Wedi i'r BBC lwyddo i gael gafael arno, mynnodd Mr Kenny mai ei fwriad oedd i'r ŵyl fynd yn ei blaen, gan ychwanegu ei fod yn "ymddiheuro o waelod calon" i'r rhai sydd wedi colli arian.
'Nes i sylwi bod y peth ddim yn bodoli'
Mae nifer o bobl sydd wedi siarad â BBC Cymru yn dweud fod y diwydiant gwyliau yn llawn cymeriadau fel Mr Kenny - yn llawn syniadau a chynlluniau mawr.
Felly pan wnaeth rheolwr bar oedd wedi rhedeg gwestai a chlwb nos yn Lerpwl awgrymu creu gŵyl enfawr, gan honni fod ganddo gefnogaeth buddsoddwyr mawr, roedd rhai yn credu y gallai wireddu'r peth.
Ond wrth i amser fynd yn ei flaen, fe ddechreuodd staff a chyflenwyr amau a oedd y cyfan yn wir.
"Roedd o'n ŵyl wedi'i wneud o bapur," meddai un cyn-weithiwr.
"Fe wnaeth popeth fynd ar chwâl braidd, a nes i sylwi bod y peth ddim yn bodoli i unrhyw un oni bai amdano fo."
Mae rhai nawr yn credu nad oedd gan Mr Kenny unrhyw fwriad i wireddu ei ŵyl uchelgeisiol.
Doedd dim blaendal wedi'i dalu i fandiau, doedd dim cais wedi'i wneud am drwyddedau, ac mae'r buddsoddwyr yr oedd Mr Kenny yn honni yr oedd yn siarad â nhw, yn dweud eu bod erioed wedi clywed amdano.
Felly sut lwyddodd gŵyl oedd wedi'i hadeiladu ar gelwyddau i fynd mor bell?

Roedd lluniau yn hyrwyddo'r digwyddiad wedi'u gwneud gydag AI, gan arwain at fersiynau od o'r Ddraig Goch
Roedd Monmouth Rising am gael ei chynnal ar faes sioe ar gyrion Trefynwy - lleoliad sy'n fwy adnabyddus am gynnal digwyddiadau bach lleol na gŵyl gyda phum llwyfan.
Roedd deunydd yn hyrwyddo'r ŵyl yn addo tocynnau fforddiadwy ac "ymrwymiad i fod yn gynhwysol", gyda dim ardaloedd VIP.
Mewn digwyddiad yn neuadd y dref fis Chwefror fe wnaeth Mr Kenny, 47, ddangos map manwl o'r safle, yn dweud ei fod wedi cael ei ddylunio gyda'r un feddalwedd gafodd ei ddefnyddio i gynllunio Gemau Olympaidd Paris.
Honnodd hefyd y byddai BBC Radio Wales yn darlledu'r ŵyl yn fyw, ac y byddai brechdanau bacwn yn cael eu saethu i'r maes gwersylla gyda chanon yn y boreau.
'Cywilydd mod wedi ei goelio'
Dywedodd wrth weithwyr posib bod buddsoddwyr yn y digwyddiad yn cynnwys pennaeth cadwyn bwytai Leon, John Vincent, ac "un o sefydlwyr gŵyl Creamfields".
Roedd yn honni hefyd fod asesiad economaidd gan Lywodraeth Cymru yn dangos y byddai'r ŵyl yn dod â £28.9m i'r ardal.
Dywedodd un sy'n gweithio yn y diwydiant ers 20 mlynedd ei bod hi'n "ddigynsail gwneud gŵyl mor fawr â hynny y tro cyntaf".
Fe wnaeth y dyn ddarparu gwasanaethau i'r ŵyl, ond doedd o ddim eisiau cael ei enwi rhag ofn iddo golli allan ar swyddi yn y dyfodol.
"Mae gen i gywilydd [fy mod wedi ei goelio], ond yn y diwydiant yma 'dych chi eisiau i rywun fod ychydig yn wallgo'."
Amheuon yn dechrau
Mae staff a chyflenwyr yn dweud bod Mr Kenny wedi creu diwylliant cyfrinachol - doedd bandiau ddim yn cael eu cyhoeddi, a doedd neb yn gwybod faint o docynnau oedd wedi'u gwerthu.
Gofynnwyd i'r cynhyrchydd cerddoriaeth Chris Whitehouse i arwyddo cytundeb peidio â datgelu (NDA) cyn creu cerddoriaeth ar gyfer hysbyseb yr ŵyl.
Dywedodd Mr Kenny wrtho y byddai hwnnw yn cael ei "leisio" gan yr actor Idris Elba, ac y byddai hefyd yn ymddangos fel DJ yn y digwyddiad, ynghyd â'r grwpiau dawns Groove Armada a Whigfield.
Ond yn ôl Mr Whitehouse, doedd pethau ddim i weld yn iawn.
"Mae gan y rhain, mae'n debyg, gyllideb o £8m i wneud yr ŵyl gerddoriaeth 'ma, ac mae o [Mr Kenny] yn edrych fel pe bai o newydd gerdded allan o Wetherspoons," meddai.
Dydy Mr Whitehouse ddim wedi cael ei dalu am ei waith, ac mae wedi dechrau achos llys yn erbyn Mr Kenny gan honni iddo dorri cytundeb.
Dywedodd asiant Idris Elba fod "dim cofnod o Idris yn gwneud unrhyw beth i'r dyn yma", a dywedodd Groove Armada a Whigfield na chafon nhw eu bwcio i ymddangos yn y digwyddiad.

Mae Genevieve Barker yn dweud ei bod heb dderbyn £5,000 mewn cyflog gan Mr Kenny
Mae Genevieve Barker yn un o'r ychydig bobl fu'n rhan o sgyrsiau cyfrinachol Mr Kenny.
"Byddai'n dweud 'mae gennym ni'r band yma, ond paid dweud wrth neb'," meddai.
Fe wnaeth Ms Barker adael ei swydd rhan-amser i fod yn bennaeth partneriaethau ar gyfer yr ŵyl - "cyfle unwaith mewn gyrfa".
Dywedodd fod Mr Kenny wedi cynnig mwy o gyflog iddi nag yr oedd hi erioed wedi'i ennill o'r blaen, yn ogystal â phensiwn a gofal iechyd preifat i'w theulu.
Ond ar ôl iddi ddechrau gweithio i'r ŵyl, dywedodd ei fod "fel perthynas wenwynig".
"Fe wnaeth i ni deimlo'n arbennig, ond yna ein hynysu. Doedd o ddim yn ein hannog i siarad fel grŵp oni bai ei fod o yno."
'Ble mae ein cyflog?'
Mae'r BBC wedi gweld sgyrsiau WhatsApp lle'r oedd gweithwyr Monmouth Rising yn siarad yn gyffrous am y cynlluniau.
Ond ddiwedd mis Chwefror fe wnaeth neges newydd ymddangos: "Ble mae ein cyflog?"
Roedd gweithwyr wedi deffro i ddarganfod nad oedden nhw wedi derbyn eu pecyn cyflog cyntaf.
Roedd gwefan yr ŵyl wedi diflannu, a doedden nhw ddim yn gallu cael mynediad at e-byst gwaith.
Dywedodd sylfaenydd The Loyalty Co, Adam Purslow, fod ei gwmni wedi adeiladu'r wefan am bris gostyngedig i'w ffrind, Mr Kenny.
Ar ôl sawl cais am arian, cafodd y wefan ei thynnu i lawr wedi i Mr Kenny anfon dogfen "amheus" at Mr Purslow yn ceisio dangos bod arian benthyciad ar y ffordd.
"Dechreuodd yr holl gyflenwyr gwestiynu pa mor ddilys oedd y cyfan," meddai Mr Purslow.

Roedd Adam Purslow yn ystyried James Kenny yn ffrind
Roedd gan weithwyr fel Ms Barker forgeisi, rhent a biliau meithrinfa i'w talu.
Anfonodd Mr Kenny fideos ati, yn honni ei fod yn aros am arian i ddod i mewn o fenthyciad.
Ond mae BBC Cymru wedi darganfod bod y "benthyciad" - cytundeb o £90,000 a anfonwyd hefyd at gwmni Mr Purslow - wedi'i wrthod oherwydd iddo fethu gwiriadau diwydrwydd dyladwy.
Roedd hyn oherwydd bod anfoneb gan y cwmni trên GWR, yr oedd Mr Kenny wedi ceisio ei defnyddio fel prawf o arian - wedi cael ei nodi fel ffugiad posibl.
Dywedodd GWR nad oedd yn gallu paru'r anfoneb â'u cofnodion, a'u bod wedi "adrodd ar unwaith" eu hamheuon i Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
Colli £20,000
Nid dyma'r unig ddogfen ffug honedig y mae'n ymddangos bod Mr Kenny wedi dibynnu arni.
Yn y gorffennol fe wnaeth Mr Kenny geisio, a methu, â chynnal gŵyl coctels, oedd yn dilyn patrwm tebyg o addewidion a ffugiadau honedig.
Yn 2021 dechreuodd Mr Kenny weithio i Kate a James, cwpl a oedd yn rhedeg bar coctels yng Nghaer ac yn gwneud arlwyo cefn llwyfan ar gyfer digwyddiadau fel y National Television Awards (NTAs).
Dywedodd y cwpl, sydd bellach yn byw ym Moroco, eu bod wedi ei wahodd i weithio yn yr NTAs ar un achlysur.
"Yna fe wnaethon ni ddarganfod ei fod wedi bod yn dweud wrth bobl ei fod yn rhedeg parti'r NTAs," meddai Kate.
"Roedden ni'n teimlo bechod drosto."

Roedd Kate a James yn arfer rhedeg bar yng Nghaer, ond maen nhw bellach yn byw ym Moroco
Dywedodd Kate fod Mr Kenny wedi perswadio'r cwpl i fuddsoddi gydag ef mewn Wythnos Coctels newydd yn Lerpwl.
Ond ni ddaeth ei arian i law ac ni chynhaliwyd y digwyddiad erioed, gyda'r cwpl yn colli £20,000.
Mewn ymgais i egluro'r oedi wrth dalu, cyflwynodd Mr Kenny gytundeb benthyciad gwerth £40,000 gan Metro Bank i'r cwpl.
Fis yn ddiweddarach pan na ddaeth yr arian hwnnw i'r amlwg, rhannodd lythyr o'r un banc yn dweud bod ei gyfrif wedi'i atal ar gam oherwydd gweithgaredd twyllodrus posibl.
Roedd y cynnig benthyciad wedi codi i £75,000, heb esboniad, ac roedd yn cyfeirio at £35,000 arall gan fuddsoddwr ym Malta.
Mae'r cwpl yn dweud nad ydyn nhw wedi cael eu talu gan Mr Kenny hyd heddiw.
Nid dyma'r tro diwethaf i Mr Kenny honni bod arian yn dod gan rywun ym Malta.
Pan ofynnodd Mr Purslow am daliad eleni, anfonodd Mr Kenny lun, sydd wedi'i weld gan y BBC, o drosglwyddiad arian rhyngwladol am £200,000 o fanc ym Malta, ond roedd yr enw wedi'i gamsillafu.
Fe wnaeth y BBC holi'r banc am y ddogfen, a atebodd nad oedd y trosglwyddiad yn un cymwys.
Yr ŵyl yn suddo
Gyda chwe mis i fynd tan yr ŵyl, roedd yn edrych fel pe bai Monmouth Rising yn diflannu.
Yna, ar 6 Mawrth, rhoddodd Mr Kenny lythyr agored ar y cyfryngau cymdeithasol yn canslo'r ŵyl oherwydd nad oedd "yn hyfyw mwyach", ond yn dweud ei fod yn dal i obeithio y byddai'n digwydd yn 2026.
Dywedodd y byddai pob tocyn a phob gwerthwr yn derbyn ad-daliad.
Ond mae'r BBC wedi cael gwybod mai dim ond 24 o bobl oedd wedi prynu tocynnau, a bod pob un wedi cael ad-daliad am fod eu harian wedi cael ei gadw gan y cwmni tocynnau.
Mae llawer o fasnachwyr yn dweud nad ydyn nhw wedi cael eu blaendal yn ôl eto.
Buddsoddwyr 'ddim wedi clywed amdano'
Dywedodd Mr Vincent o gadwyn bwytai Leon nad oedd erioed wedi cwrdd â Mr Kenny, tra bod dau o sylfaenwyr gwreiddiol Creamfields a'r perchnogion presennol i gyd yn dweud nad ydyn nhw wedi clywed amdano.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd erioed wedi gwneud asesiad effaith economaidd, a dywedodd BBC Cymru nad oedd erioed wedi cael cais i ddarlledu o'r ŵyl.
Dywedodd y cwmni a oedd i fod i ddarparu pŵer hydrogen i'r ŵyl ei fod wedi ymrwymo i gytundeb cyflenwi, ond nad oedd unrhyw waith wedi'i wneud.
Dywedodd The Killers a Def Leppard nad oedden nhw wedi cael cais i berfformio. Nid ydym wedi clywed yn ôl gan The Libertines, Wet Leg a Pulp eto.
Dywedodd bandiau eraill eu bod wedi cael cais, ond na chafodd blaendal ei dalu.
Dywedodd cyflenwyr a gweithwyr eu bod wedi colli miloedd o bunnoedd, a bod ymdrechion i gychwyn achos cyfreithiol yn erbyn Mr Kenny wedi dod i ben ar ôl iddo ddileu ei rif ffôn a symud cyfeiriad.
Mynnu bod y digwyddiad yn un go iawn
Fe lwyddodd BBC Cymru i gael rhif ffôn newydd Mr Kenny er mwyn cyflwyno'r honiadau iddo.
Dywedodd fod y rhestr bandiau yn un go iawn, a'i fod wedi treulio blwyddyn yn gweithio ar Monmouth Rising, gan ychwanegu mai dyna oedd "yr unig beth ro'n i'n canolbwyntio arno".
Nododd ei fod yn talu rhai gweithwyr a dywedodd y gallai'r rhai a gollodd arian gysylltu ag ef yn uniongyrchol, gan ychwanegu nad yw erioed wedi "cuddio rhag unrhyw beth".
Ni ddywedodd ble roedd yn byw bellach, ac ni atebodd gwestiynau am y ffugiadau honedig, na'r bobl yr oedd yn honni eu bod yn buddsoddi yn ei ŵyl, a gofynnodd i'r BBC anfon e-bost ato gyda chwestiynau.
Ni atebodd yr honiadau a gafodd eu cyflwyno iddo yn yr e-bost yn uniongyrchol, ond mewn datganiad dywedodd mai ei "unig ysgogiad" oedd creu rhywbeth gwerth chweil.
Ond dywedodd fod hynny wedi dod gyda chost bersonol iddo, yn ariannol ac i'w iechyd.
Dywedodd fod y cyfan wedi mynd ar chwâl ar ôl iddo sylweddoli na fyddai modd iddo gael caniatâd i gynnal digwyddiad mor fawr ar faes sioe Trefynwy.
Dywedodd Cyngor Sir Fynwy, yn y 12 mis mae Mr Kenny yn honni iddo dreulio yn cynllunio'r ŵyl, eu bod wedi cael dim ond un cyfarfod gydag ef.
Ychwanegodd Mr Kenny ei fod yn edifar, gan addo i'r rheiny sydd wedi'u heffeithio: "Fe wna i eich ad-dalu chi."
'Ein twyllo ni gyd'
Mae cwestiynau'n cael eu gofyn nawr ynghylch sut llwyddodd hyn i fynd mor bell.
Mae James Kenny yn cael ei enwi fel cyfarwyddwr ar ddwsinau o gwmnïau bach o dan fersiynau gwahanol o'i enw, sydd â £27,000 mewn Dyfarniadau Llys Sirol heb eu talu.
Yn 2008, cafwyd yn euog o ddau gyhuddiad o dwyll am ffugio llofnod ei wraig i gael taliad morgais i glirio dyledion gwerth £15,000.
Dywedodd Genevieve Barker ei bod heb dderbyn £5,000 mewn cyflog gan Mr Kenny, ei bod yn credu ei fod yn "ffantasydd ac yn narcissist".
"Roedd hwn i fod yn ddigwyddiad gwerth miliynau o bunnoedd, ac fe wnaeth o greu'r peth yn ei swyddfa ar fwrdd cegin ei fam.
"Weithiau byddech chi'n gweld hi'n cerdded heibio mewn gŵn nos.
"Fe wnaeth o ein twyllo ni gyd."