Y ffilm Disney 'Gymraeg' wnaeth pawb ei hanghofio

- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi fod yna ffilm gartŵn Disney sydd wedi ei seilio ar chwedloniaeth Gymraeg?
Ar 24 Gorffennaf, mae hi'n 40 mlynedd ers i The Black Cauldron gael ei rhyddhau – ffilm sydd wedi ei lleoli yn nheyrnas 'Prydain', sy'n llawn cymeriadau ag enwau sy'n swnio'n gyfarwydd iawn i siaradwyr Cymraeg, a themâu sy'n dod allan o'r Mabinogi.
Mae'r ffilm wedi ei seilio ar gyfres nofelau The Chronicles of Prydain gan Lloyd Alexander, a gafodd eu hysgrifennu yn yr 1960au, sydd wedi eu hysbrydoli gan fytholeg Gymraeg a Chymreig.

Arwr y ffilm yw dyn ifanc o'r enw Taran, sy'n cadw moch yng Nghaer Dallben yn nheyrnas Prydain. Mae'n mynd am antur i geisio achub y mochyn, Hen Wen, rhag crafangau'r brenin corniog, sydd eisiau defnyddio'r anifail i gael gafael ar y grochan ddu.
Mae'r grochan yn gallu cael ei defnyddio i greu byddin o filwyr marw, sydd yn debyg i'r Pair Dadeni o stori Branwen o'r Mabinogi, ac mae tebygrwydd rhwng y mochyn, Hen Wen, â'r Twrch Trwyth o chwedl Culhwch ac Olwen.
Ar ei siwrne, mae Taran yn cwrdd â Thywysoges Eilonwy, bardd o'r enw Fflewddur Fflam a chreadur ffyddlon o'r enw Gurgi.
Enwau eraill yn y ffilm sy'n swnio'n Gymreig a chyfarwydd yw Brenin Edilleg, y dair wrach, Orddu, Orgoch ac Orwen, a chorsydd Morva.

Ond mae hi'n ffilm sy'n anghyfarwydd i nifer, hyd yn oed y ffans Disney mwyaf brwdfrydig.
Yn y ffilm, mae herwgipio, carcharu, a marwolaethau, felly mae 'na themâu a golygfeydd llawer tywyllach ynddi nag yn ffilmiau arferol Disney. Dyma mae'n siŵr sydd y tu ôl i'r ffaith ei bod yn aml yn cael ei anghofio.
Tywysoges Eilonwy druan yw'r unig dywysoges sydd ddim yn cael ei dathlu yn yr un ffordd â thywysogesau eraill Disney; welwch chi ddim teganau Eilonwy ochr-yn-ochr â rhai Jasmine o Aladdin, Ariel y Fôr-forwyn Fach neu Moana.
Hwn oedd y ffilm Disney gyntaf i gael dosbarthiad PG er mwyn denu cynulleidfa o bobl ifanc, yn hytrach na'r U sydd yn addas i bawb.
Ac yn wahanol i ffilmiau arferol a phoblogaidd Disney, does 'na'r un cymeriad yn dechrau canu am ddim rheswm.

Wnaeth y ffilm ddim yn wych yn y sinemâu 40 mlynedd yn ôl, ond mae bellach wedi ennill cynulleidfa gwlt; cynulleidfa a fynnodd bod y ffilm o'r diwedd yn cael ei rhyddhau ar fideo yn 1997.
Mae Leni Hatcher yn un ohonyn nhw, fel mae hi'n ei egluro:
"Ma 'na lwyth o resymau pan dwi'n hoffi'r ffilm yma... I ddechrau ry' ni'n dathlu yr un blwyddyn geni ac mae pawb sydd yn nabod y ffilm yn gyfarwydd â'r ffaith bod y stori wedi seilio yn fras iawn ar y Mabinogion a mytholeg Cymraeg.
"Ma'n reit arbennig fel ffan Disney i glywed gymaint o snippets o'r iaith Gymraeg mewn ffilm fel hon.
"Y broblem yw doedd hi ddim yn llwyddiannus iawn fel ffilm, dwi'n tybio achos fod hi'n ffilm eitha' tywyll gyda lot o ddelweddau o'r isfyd. Dyw hi ddim yn ffitio'r brand Disney cheesy arferol.
"Dwi'n reit siŵr 'naeth hi neud golled reit fawr yn y Box Office a rhoi'r adran animeiddio yn Disney mewn sefyllfa reit fregus!
"Felly dyw pobl ddim yn gyfarwydd â hi, ac ma pobl o fewn y diwydiant yn ei adnabod hi fel 'y ffilm 'naeth bron â lladd Disney'.
"Dim syndod felly taw Eilonwy yw'r unig dywysoges sydd ddim yn cerdded yn y Disney parade yn Disney World!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd12 Mawrth
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd21 Awst 2024