Rôl Pen Llŷn yn sgandal The Salt Path

Raynor Winn/Sally Walker (dde) gyda'r actores Gillian Anderson (chwith) Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Raynor Winn/Sally Walker (dde) gyda'r actores Gillian Anderson (chwith)

  • Cyhoeddwyd

Mae'r llyfr a'r ffilm boblogaidd The Salt Path sydd gyda chysylltiadau â Phen Llŷn wedi troi'n sgandal dros yr wythnosau diwethaf.

Mae ymchwiliad gan bapur newydd The Observer yn cynnwys honiadau bod Raynor Winn, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Sally Walker, wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol am hanes ei bywyd hi a'i gŵr Moth yn ei llyfr The Salt Path.

Mae Ms Walker wedi galw adroddiad The Observer yn "gamarweiniol iawn" ac wedi gwrthod llawer o'r honiadau.

Bu Ms Walker a'i gŵr Tim yn byw yn Y Ffôr am dros 20 mlynedd.

Gallwch ddarllen y cyd-destun yn llawn yma.

Un fu'n gweithio ar stori'r Observer yw'r newyddiadurwr o Bwllheli, Helen Clifton.

Yn y darn yma mae Helen yn disgrifio ei rôl hi, a sut y bu ei pherthynas â'r ardal leol ym Mhwllheli yn allweddol i ymchwiliad yr Observer.

Helen CliftonFfynhonnell y llun, Helen Clifton
Disgrifiad o’r llun,

Helen Clifton

Cyfarfod yn Wetherspoons, Pwllheli

Mae Wetherspoons Pwllheli yn fan anarferol i drafod pennawd fyddai'n cydio i ymchwiliad gan bapur newydd mawr.

Ond dyna lle roeddwn i pan wnes i gyfarfod gohebydd The Observer, Chloe Hadjimatheou dros nachos a pheint o pepsi.

Roedd hi wedi teithio o Lundain i ymchwilio i'r stori wir tu ôl i'r nofel boblogaidd The Salt Path.

Ro'n i'n gwybod popeth am y llyfr. Mae ffrindiau a theulu bob ochr i'r ffin ymysg y miliynau sydd wedi ei brynu. Roedden nhw yn ei garu ac yn ei gredu.

Ond pan ddywedodd Chloe wrtha i mai enw go iawn y Winns yw Tim a Sally Walker – a'u bod wedi byw yn Y Ffôr am dros 20 mlynedd – doeddwn i ddim yn synnu.

Mae blynyddoedd o weithio fel newyddiadurwr ymchwiliol wedi rhoi greddf i mi am beth yw con. Roedd gen i deimlad nad oedd popeth fel roedd yn ymddangos gyda The Salt Path.

Ond roedd y gwir tu hwnt i fy amheuon gwaethaf.

Cysylltiad

Pan ddechreuais dyrchu am wybodaeth, doedd neb i weld wedi cysylltu'r Walkers a The Salt Path, yn gyhoeddus o leiaf.

Er bod eu dau o blant wedi mynychu'r ysgol gynradd leol, Ysgol Botwnnog, a Choleg Meirion Dwyfor a bod Tim wedi gweithio fel prif arddwr yn Plas yn Rhiw – doedd y gymuned ddim yn gwybod llawer amdanyn nhw.

Mae gogledd Cymru wledig wedi profi tonnau o fewnfudwyr fel Tim a Sally Walker. Pobl sydd eisiau dianc i'r cyrion Celtaidd, yn cael eu hudo yma gan y tirwedd a llonyddwch.

Mae'r artist Bedwyr Williams yn dychan gwerthoedd y bobl yma, yn eu beirniadu am fod yn anwybodus tuag at ddiwylliant Cymraeg a'i hiaith.

Boed hynny'n wir neu beidio, mae Llŷn yn parhau'n gadarnle i'r iaith Gymraeg.

Mae hyn yn darparu rhwystr naturiol i bobl o'r tu allan. Os nad ydych yn dysgu Cymraeg, gall integreiddio fod yn sialens.

arwyddFfynhonnell y llun, Helen Clifton

Fy ddywedodd un person lleol wrtha i fod cyn-gartref y Walkers, Pen y Maes ger Rhosfawr, wedi cael ei brynu a'i werthu gan lawer o bobl dros y blynyddoedd cyn iddyn nhw symud yno.

Fe es i'w weld, hyd yn oed i safonau Llŷn, roedd yn anghysbell. Byddai'r Walkers wedi byw ymhell o bawb yno. Efallai mai dyna oeddent eisiau.

Ond roedd bywyd y gymuned leol yn mynd rhagddi, a neb callach am bresenoldeb y Walkers oedd yn cadw nhw eu hunain iddyn nhw eu hunain.

Pen y MaesFfynhonnell y llun, Helen Clifton
Disgrifiad o’r llun,

Pen y Maes

Yn ôl yn Llundain, roedd Chloe yn cael trafferth gyda chamau cyntaf yr ymchwiliad.

Roedd ei golygydd wedi dweud wrthi na allai gyhoeddi stori "yn seiliedig ar gossip ym Mhwllheli". Roedden ni hefyd yn cael ein rhwystro gan ein hanallu i rannu'r manylion prin roedden ni'n ei wybod.

Fe wnaeth rhai pobl wnes i geisio siarad â nhw wrthod. Roeddent yn poeni am effaith 'siarad allan' ar y gymuned.

Ond fe wnaeth dycnwch Chloe ei harwain at Ros Hemmings yn y pendraw.

Ros yw gweddw Martin Hemmings, syrfewr uchel ei barch ym Mhwllheli. Roedd Ros yn honni fod Martin wedi cael ei embeslo o £64,000 i Sally Walker.

Ros HemmingsFfynhonnell y llun, Helen Clifton
Disgrifiad o’r llun,

Ros Hemmings

Fe rannodd Ros y stori gyda Chloe ond roedd hi'n betrus am gael ei henwi, ac i fod ar record.

Fe dreuliodd Chloe ychydig o ddyddiau nerfus yn aros i Ros benderfynu. O'r diwedd, fe ges i'r neges: "Newyddion grêt – fe wnaeth Ros feddwl am y peth dros nos ac mae hi wedi tecstio'n dweud 'Bring it on'!"

'Tip-off'

Fe wnaeth person busnes lleol, oedd eisiau aros yn anhysbys, roi gwybodaeth i mi fod gan y Walkers fusnes.

Yn ddigon eironig, cwmni cyhoeddi wedi ei leoli ym Mharc Menai. Fe wnaeth Chloe wirio ar wefan Companies House – a dyna lle roedd Gangani Publishing.

Gan ddefnyddio tŵls arlein sy'n chwilio'r we am wefannau anactif, roedd gohebwyr yr Observer yn gallu ffeindio gwefan Gangani Publishing. Roedd yn hysbysebu bod un llyfr yn unig ar werth – 'How Not To Dal Dy Dir'.

Er gwaetha'r teitl, dyw'r llyfr yma ddim am genedlaetholdeb Cymreig.

Roedd y wefan hefyd yn hysbesbu 'prize draw' er mwyn annog pobl i brynu'r nofel.

Y wobr oedd cartref y Walkers, Pen y Maes. Yr un tŷ oedd i fod i gael ei adfeddiannu.

Torri trwodd

Erbyn hyn, roedd gan yr Observer bopeth roeddent ei angen.

Alla i ddim cymryd unrhyw glod am effaith yr ymchwiliad. Mae tîm o gyfreithwyr, golygyddion a newyddiadurwyr wedi bod yn gweithio ar bob manylyn o'r stori yma.

Mae Sally Walker wedi galw'r stori yn "gamarweiniol iawn" ac wedi rhyddhau gwrthbrofiad manwl, dolen allanol.

Mewn datganiad ar ei gwefan mae'n dweud ei bod wedi cael ei chwestiynu gan yr heddlu am yr honiadau o embeslo ond na chafodd hi erioed ei chyhuddo a'i bod "yn difaru'n ddwfn unrhyw gamgymeriadau a wnaeth hi yn y blynyddoedd tra'n gweithio yn y swyddfa honno," a'i bod "yn wirioneddol sori".

Mae'n cyfaddef ei bod wedi gwneud camgymeriadau ac yn dweud bod yr achos rhyngddi hi a Martin Hemmings wedi ei setlo ar sail "peidio â derbyn" oherwydd "nad oedd ganddi'r dystiolaeth angenrheidiol i gefnogi'r hyn a ddigwyddodd".

Beth bynnag ddigwyddodd, mae hyn ymhell o fod yn "gytundeb busnes" a aeth o chwith, fel mae'r llyfr yn honni.

Mae llawer o bobl wedi eu siomi'n ofnadwy gan y llyfr sydd yn cael ei ddisgrifio gan y cyhoeddwr yn llyfr "gonest".

Roedd pobl eisiau credu yn The Salt Path. Ond mae wedi troi allan, mae'n ymddangos, i fod yn ddarn arall o gamwybodaeth.

Fel ddywedodd fy ffrind: "Mae mor drist i ddarganfod fod rhywbeth oedd yn dwymgalon ac wedi ei ysgrifennu'n hyfryd, ddim yn wir," ond mae Ms Walker yn parhau i sefyll gyda naratif y llyfr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig