Oes gennych chi ffasiwn cerdd dant?

Merched y Gromlech
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffasiwn wedi newid ychydig erbyn hyn, ond ar un adeg, doedd parti cerdd dant ddim yn barti cerdd dant heb ffrog flodeuog Laura Ashley.
Ac mae'n hen bryd iddyn nhw weld golau dydd eto, yn ôl Sara Gibson, aelod o bwyllgor apêl Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth 2025.
Ym mhabell Cymdeithas Cerdd Dant Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, bydd arddangosfa o ddillad sydd wedi eu gwisgo i gystadlu yn yr Ŵyl Cerdd Dant dros y blynyddoedd... ac mae angen eich rhai chi i'w hychwanegu at y casgliad!
"Mae'n gyfle i ni edrych yn ôl a diolch i'r rheiny am gystadlu, am greu'r bwrlwm, am greu'r lliw ac am gyfrannu i hanes yr Ŵyl Cerdd Dant," meddai Sara, wrth egluro'r syniad tu ôl i'r arddangosfa ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.
"Annog teimlad o nostalgia, ac i hyrwyddo'r ffaith fod yr Ŵyl yn dychwelyd i Aberystwyth fis Tachwedd eleni. Ni am roi esgus i bobl ddod i'r babell i hel atgofion."

Dillad Blodau'r Eithin, Llangwm 1970-1990au
Y gobaith yw y bydd aelodau o gorau a phartïon Cymru yn tyrchu drwy eu cypyrddau am hen ffrogiau, sgertiau, teis, crysau polo neu emwaith a gafodd ymddangos ar lwyfan yr ŵyl dros y degawdau.
Ac mae rhai wedi cyrraedd Sara yn barod - gan roi cipolwg ar ffasiwn 'diddorol' y gorffennol.
"'Dyn ni wedi cael rhai gwisgoedd bendigedig. Mae'r ffrogiau yn dweud cyfrolau am y cyfnodau. Mae 'na rai Laura Ashley yn eu plith nhw, a dwi wrth fy modd.
"Er mae 'na rai wedi cyfadde', fod rhai o'r gwisgoedd wedi ffeindio eu ffordd i focs gwisgo lan ambell i ysgol ar gyfer rhyw gynhyrchiad neu rywbeth.
"Mae gen i atgof o dwrio mewn bocsus gwisgo lan gan Mam a Dad, ac o edrych nôl ar y lluniau, sylweddoli bo' fi'n gwisgo ffrogiau partïon cerdd dant Mam!"

Parti Lisa Erfyl
A hyd yn oed os yw'r ffrog neu'r flows wedi hen fynd i'r siop ail-law, peidiwch â phoeni; mae'r pwyllgor hefyd yn awyddus i gael lluniau o'r gwisgoedd.
Os ydych am gyfrannu, gallwch gysylltu gyda'r pwyllgor drwy dudalen Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth, dolen allanol ar Facebook. Pob lwc gyda'r tyrchu!

Dillad Blodau'r Eithin, Llangwm 1970-1990au
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020