Undeb addysg yn poeni am blant yn defnyddio technoleg deepfake

Mae delweddau deepfake yn rhoi'r argraff bod y person dan sylw yn gweithredu a siarad go iawn yn y fideo, ond mae'r cyfan yn ffug
- Cyhoeddwyd
Mae undeb addysg yn poeni am y cynnydd sydyn yn nefnydd disgyblion o ddelweddau artiffisial ffugio dwfn - deepfake.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Ioan Rhys Jones, bod athrawon a staff ysgolion yn poeni'n fawr am y defnydd o AI i greu delweddau sy'n gwbl gamarweiniol.
Mae'r undeb yn galw am arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl Mr Jones, mae yna "bryder ymhlith ein haelodau yn gyffredinol bod sefyllfa yn codi lle nad oes gweithdrefnau pendant yn eu lle".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi cyfarwyddyd ar gyfer ysgolion ynghylch AI yn gynharach eleni, "sy'n cynnwys ystyriaethau diogelwch".

Mae Ioan Rhys Jones yn galw am arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru ar dechnoleg deepfake
Mewn arolwg diweddar gan undeb ASCL dywedodd dros chwarter yr athrawon a holwyd ar draws y DU bod disgyblion wedi eu recordio heb ganiatâd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd nifer o ddisgyblion hefyd wedi recordio ei gilydd heb ganiatâd.
Dywedodd tri o bob 10 athro eu bod wedi gweld disgyblion yn cael mynediad at bornograffi neu gynnwys treisgar yn ystod amser ysgol.
Mae natur rhai o'r delweddau hyn yn peri pryder sylweddol, yn ôl UCAC.
"Ma'r arfer o greu delweddau a newid y delweddau yna yn reit gyffredin erbyn hyn ond ma' 'na bryder mawr yn codi bod yna ddelweddau o natur rywiol er enghraifft," ychwanegodd Ioan Rhys Jones.
"Mae creu delweddau ar gynnydd, ac mae hyn wrth gwrs yn peri trafferth mawr pan ma'r delweddau yna yn ddelweddau o bobl eraill, yn ddelweddau amheus.
"Ma' angen i ni sicrhau bod pob athro a phob ysgol yn rhoi hyfforddiant yn ei le i'r disgyblion ac i'r staff, a ma' rhaid i ni hefyd sicrhau bod pob un o fewn yr ysgol yn gallu gweld be' sy'n ddelwedd AI."
'Lot o ddifrod'
Mae delweddau deepfake yn rhoi'r argraff bod y person dan sylw yn gweithredu a siarad go iawn yn y fideo - yn sgil addasu digidol. Ond mae'r cyfan yn ffug.
Mae'r arbenigwr AI, Dr Neil Mac Parthalain o Brifysgol Aberystwyth, yn rhybuddio bod y dechnoleg mor soffistigedig erbyn hyn, na all y rhan fwyaf o bobl sylwi ar y gwahaniaeth.
"Ma' nhw yn gallu gwneud lot o ddifrod," meddai.
"I'r rhan fwyaf o bobl, ni fydd modd gwahaniaethu rhwng deepfakes fideo a delweddau, neu hyd yn oed delweddau sain.
"Dyna be' sy' mor beryglus – does dim modd i wahaniaethu.
"Bydde plant ysgol yn gallu creu stwff fyddai'n niweidiol iawn. Ma' 'na botensial i 'neud lot o niwed i unigolyn."

Dywedodd Dr Neil Mac Parthalain fod y dechnoleg "yn gallu gwneud lot o ddifrod"
Mae undeb UCAC yn galw ar y llywodraeth i ddarparu arweiniad cenedlaethol clir i ysgolion ledled Cymru.
"Ein galwad cyson ni fel undeb yw bod y llywodraeth yn rhoi arweiniad canolog fel bod yna gysondeb trwy Gymru, ac o ysgol i ysgol," meddai Ioan Rhys Jones.
"Ma' angen i ni sicrhau bod yr arweiniad 'na yn gyfangwbl glir.
"Arweiniad o'r canol sydd eisiau er mwyn sicrhau cysondeb a sicrhau dealltwriaeth yn genedlaethol."
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud bod creu delweddau deepfake o natur rywiol yn drosedd sy'n gallu arwain hyd at ddwy flynedd o garchar.
'Wedi cyhoeddi cyfarwyddyd ar AI'
Yn ymateb i sylwadau Mr Jones, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod hi'n "hanfodol ein bod yn cefnogi ein plant a'n pobl ifanc i gadw'n ddiogel ar-lein".
"Mae diogelwch ar-lein yn nod pwysig o fewn fframwaith Cwricwlwm Cymru, ac mae addysgu pobl ifanc sut i gymryd rhan yn ddiogel â chyfryngau cymdeithasol yn fater croes-gwricwlwm.
"Yn gynnar eleni, cyhoeddwyd cyfarwyddyd ar gyfer ysgolion ynghylch AI sy'n cynnwys ystyriaethau diogelwch.
"Rydym hefyd wedi comisiynu Estyn i adolygu defnydd presennol ysgolion o AI.
"Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd18 Awst 2023
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2022