Llun Cymro o Epstein ym mhriodas Arlywydd Trump yn creu penawdau

Y ffotograffydd Dafydd Jones, gafodd ei fagu yn Y Felinheli, San Clêr a Chaerfyrddin, yn ei arddangosfa Hollywood, New York, Colwyn Bay ym Mae Colwyn
- Cyhoeddwyd
Mae ffotograff gan Gymro o'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein ym mhriodas yr Arlywydd Donald Trump wedi creu penawdau yr wythnos yma.
Fe gafodd y llun ei dynnu gan Dafydd Jones yn 1993 pan roedd yn gweithio fel ffotograffydd i Vanity Fair yn Efrog Newydd.
Mae wedi bod yn un o brif straeon yn America ar ôl i wasanaeth newyddion CNN gysylltu gyda'r Arlywydd i gael ei ymateb.
Dywedodd Mr Jones wrth Cymru Fyw ei fod o'n "meddwl bod o reit ddoniol dweud gwir, bod y dyn o CNN wedi ffonio Trump am fy llun i".

Roedd Epstein a Trump - yma yn 1997 (nid y llun gafodd ei dynnu gan Mr Jones) - yn arfer bod yn gyfeillgar, yn ôl yr arlywydd, tan iddyn nhw ffraeo yn 2004
Mae'r berthynas a'r cysylltiad rhwng yr Arlywydd Trump ac Epstein wedi dod yn bwnc llosg gwleidyddol yn America.
Mae'r Arlywydd wedi bod dan bwysau cynyddol i ddatgelu mwy o wybodaeth am Epstein ac am ei farwolaeth.
Bu farw Epstein mewn cell garchar yn Efrog Newydd yn 2019 wrth iddo aros am ei achos llys ar gyhuddiadau o fasnachu mewn rhyw, yn dilyn euogfarn gynharach am geisio puteindra gan blentyn dan oed.
Cafodd ei farwolaeth ei ddyfarnu yn hunanladdiad.

Bu farw Epstein yn ei gell yn Efrog Newydd yn 2019 wrth aros am ei achos llys
Dywedodd Mr Jones wrth BBC Cymru Fyw ei fod yn cofio tynnu'r lluniau o'r ddau pan oedd yn byw yn Efrog Newydd yn yr 1990au.
Roedd wedi gweld Epstein mewn agoriad caffi Harley Davidson newydd yn 1993. Yno hefyd roedd Donald Trump, oedd ar y pryd yn ddyn busnes llwyddiannus.
"Dwi'n cofio gweld y dyn yma oedd ar falconi yn edrych yn drawiadol - yn edrych fel blaidd - ac roedd o'n edrych lawr ar y parti a nesh i'r llun ohono fo," meddai.
"Nesh i fynd ato a gofyn am ei enw - Jeffrey Epstein, meddai o, a wnaeth o roi ei gerdyn i mi.
"Roedd o'n gerdyn bychan iawn a dim ond ei enw Jeffrey Epstein, efo rhif ffôn, ac ella cyfeiriad a financial adviser neu financial rhywbeth arno fo."

Llun o briodas Donald Trump yn 1993 (nid gan Dafydd Jones), gydag Epstein yn y cefndir
Mae'r llun hwnnw - lle mae posib gweld Donald Trump, gyda'i gefn at y camera, drws nesa' i Epstein - i'w weld mewn arddangosfa o waith Mr Jones yn Oriel Colwyn, ym Mae Colwyn ar hyn o bryd.
Fe wnaeth Mr Jones dynnu llun arall yn yr agoriad caffi yn 1993 o Epstein gyda'r Arlywydd Trump a dau o'i blant.
Mae hwnnw wedi ei ddangos ar deledu yn yr UDA ac ar-lein yr wythnos yma fel rhan o stori CNN.

Mae rhai o luniau Dafydd Jones o bobl byd-enwog i'w gweld yn ei arddangosfa yn Oriel Colwyn - fel y triawd yma mewn parti gwobrau'r Oscars yn Los Angeles: Mick Jagger, Madonna a Tony Curtis
Ddeufis ar ôl tynnu'r lluniau yn yr agoriad caffi, roedd Mr Jones yn gweithio fel ffotograffydd ym mhriodas Donald Trump a'i ail wraig Marla Maples yn y Plaza Hotel, Efrog Newydd.
"Doedd gen i ddim lleoliad da iawn - ro'n i'n cael fy nghyflogi i dynnu lluniau yno i Vanity Fair, ac roedd y golygydd Graydon Carter yn adnabyddus am wneud hwyl am ben Donald Trump," meddai Mr Jones.
Ond mae'n dweud pan welodd o Epstein yn cyrraedd y briodas fe dynnodd ei lun ar ôl ei adnabod o'u cyfarfod deufis ynghynt.
Ers hynny mae Epstein wedi dod yn ddrwg-enwog am droseddau rhyw dros gyfnod o flynyddoedd a nifer wedi bod yn gofyn am ryddhau ffeiliau troseddol yn ei erbyn.
Yn ddiweddar, gyda'r chwyddwydr wedi bod ar ei gysylltiad gyda'r Arlywydd Trump, mae rhai ffigyrau amlwg o'r blaid Weriniaethol wedi newid eu meddwl ac yn dweud na ddylai gwybodaeth am yr ymchwiliad i Epstein gael ei gwneud yn gyhoeddus.
'Dim cywilydd'
Y pwnc llosg gwleidyddol wnaeth arwain at CNN i chwilio am fwy o dystiolaeth o'r cysylltiad - a chanfod lluniau'r Cymro.
Yn ei adroddiad ddydd Mawrth, dywedodd newyddiadurwr CNN, dolen allanol ei fod wedi ffonio'r Arlywydd Trump a sôn wrtho am y llun a'i fod wedi dweud: "You've got to be kidding me" cyn sôn am newyddion ffug a rhoi'r ffôn i lawr.
Dywedodd Dafydd Jones: "Ro'n i'n meddwl bod o reit ddoniol dweud gwir, bod y dyn o CNN wedi ffonio Trump am fy llun i.
"'Di o'n ddim byd i fod efo cywilydd amdano - mae o reit ddoniol."

Hysbysfwrdd yn Times Square Efrog Newydd yn galw am ryddhau ffeiliau Epstein
Er bod y copi gwreiddiol wedi ei ddinistrio daeth o hyd iddo wrth chwilio drwy ei hen luniau yn ystod y cyfnod clo.
Eglurodd: "Pan nes i'r llun doeddwn i heb adeiladu stafell dywyll fy hun.
"Ro'n i'n defnyddio labordy grêt yn Efrog Newydd ac roedd ganddyn nhw'r negative.
"Wnaeth y dyn oedd yn berchen y lab farw a'r holl negs oedd ganddyn nhw eu taflu allan.
"Ond roedd gen i dal y contact sheets [tudalen gyda chopis bychan o'r holl luniau sydd ar rolyn ffilm] - lle nes i ddod o hyd i'r ddelwedd yma."
Fe wnaeth Mr Jones dreulio cyfnodau yn byw yn Y Felinheli, Sanclêr a Chaerfyrddin cyn symud i Rydychen yn 10 mlwydd oed. Mae bellach yn byw yn ne Lloegr.
Roedd ei dad, Glyn, sydd bellach yn 93, yn syrfëwr o Bont-Y-Garth ger Llanrwst a'i nain, Myfanwy, o Fae Colwyn.
Mae ganddo arddangosfa - Hollywood, New York, Colwyn Bay - yn Oriel Colwyn tan ddiwedd mis Awst.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2024