Casglu arian at Eisteddfod Wrecsam yn anodd - Llinos Roberts

Llinos Roberts ydy cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
- Cyhoeddwyd
Mae'n anoddach casglu arian tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol y dyddiau yma oherwydd y wasgfa ariannol, yn ôl cadeirydd pwyllgor gwaith y Brifwyl eleni.
Dywedodd Llinos Roberts eu bod nhw'n dal i geisio cyrraedd eu targed o £400,000, ond bod cwmnïau yn llai parod i gyfrannu'n ariannol nag oedden nhw cyn Covid a Brexit.
Ychwanegodd bod y dasg yn fwy heriol mewn ardaloedd ar y ffin gan fod mwy o waith codi ymwybyddiaeth ymysg y di-Gymraeg o bwysigrwydd yr Eisteddfod cyn gallu casglu arian.
Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol fod y "Pwyllgor Gwaith a chefnogwyr yr Eisteddfod ar draws ardal Wrecsam a thu hwnt wedi gwneud gwaith ardderchog yn codi arian, a hynny mewn cyfnod anodd".

Arwydd wrth allanfa'r Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd llynedd. Y tro diwethaf i'r Brifwyl ymweld â Wrecsam oedd yn 2011
Pob blwyddyn mae'r ardal sydd wedi gwahodd y Brifwyl yn cael targed ariannol i helpu i dalu am ei chynnal.
Mae cymunedau yn trefnu bob math o ddigwyddiadau drwy'r flwyddyn er mwyn cyrraedd y ffigwr.
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol, a gafodd ei recordio ar ddechrau Gorffennaf, dywedodd Ms Roberts nad oedden nhw wedi cyrraedd eu targed o £400,000 ac mai dyna oedd ei her fwyaf fel cadeirydd y pwyllgor gwaith.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2024
"Mae wedi bod yn anodd - yn amlwg does 'na ddim gymaint o arian o gwmpas," meddai.
"Mae llawer o'r cwmnïau yma, yn y gorffennol lle fasa nhw'n rhoi nawdd - erbyn heddiw maen nhw'n deud 'o nawn ni roi cynnyrch i chi'.
"Felly 'da ni wedi cael llawer o fara a llawer o gynnyrch felly fel rhodd, ond eto dim yr arian nawdd 'ma sydd wedi bod yn digwydd yn y gorffennol.
"Mae 'na nifer o bethau - rhai o'r cwmnïau wedi bod trwy gyfnod o Covid ac wedyn Brexit a bob math o bethau yn digwydd yn y byd - ac felly mae llawer ohonyn nhw'n diodde' yn ariannol oherwydd hynny."
Diffyg ymwybyddiaeth o'r Eisteddfod
Yn ystod y cyfweliad fe eglurodd bod y sefyllfa'n heriol mewn ardaloedd sy'n agos at y ffin fel Wrecsam, lle mai dim ond tua 12% o'r boblogaeth sy'n siarad Cymraeg.
Mae hyn yn golygu bod angen gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg y di-Gymraeg.
"Dy'n nhw ddim yn deall be' ydi'r Steddfod a pha mor bwysig ydi'r Steddfod i iaith a'r diwylliant yma yng Nghymru," meddai Ms Roberts.
"Yn amlwg mae'r plant yn yr ysgolion erbyn hyn yn dilyn trywydd - maen nhw i gyd yn gorfod dysgu Cymraeg, maen nhw i gyd i fod efo ymwybyddiaeth o'r diwylliant.
"Ond dwi'n meddwl mae wedi bod yn eithaf anodd a llawer iawn o bobl ddim wir yn deall.
"Pan 'da chi'n deud 'Steddfod wrthyn nhw maen nhw'n dweud 'o ia, I know, the Llangollen one' - a dwi'n deud 'na, na, na Steddfod Genedlaethol ydi hon' ac wedyn ma' nhw'n deud 'the children one?'
"Wedyn mae rhywun yn teimlo bod rhywun yn gorfod egluro yn union be' 'di'r Steddfod.
"Ac yn amlwg mae'r 'Steddfod wedi newid lot dros y blynyddoedd diwetha' ac mae o'n cynnig llawer mwy i bobl ifanc ac i bob ystod oedran ac i bawb a dweud y gwir."

Mae'r Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal eleni yn ardal Is-y-coed ar gyrion Wrecsam
Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol fod "Pwyllgor Gwaith a chefnogwyr yr Eisteddfod ar draws ardal Wrecsam a thu hwnt wedi gwneud gwaith ardderchog yn codi arian, a hynny mewn cyfnod anodd".
"Bydd y gwaith yn parhau hyd at ddiwedd yr Eisteddfod, ac mae cannoedd o weithgareddau codi arian a chodi ymwybyddiaeth o bob math wedi'u cynnal ar draws y dalgylch.
"Mae'r gweithgareddau sydd wedi'u cynnal yn enw'r Eisteddfod wedi bod yn hynod o amrywiol, gyda'r cyfan yn gyfle i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn aml mewn sefyllfaoedd newydd.
"Roedd sicrhau hyn yn un o brif amcanion yr Eisteddfod wrth gychwyn ar y prosiect yn Wrecsam, a'r gobaith yw y bydd rhai o'r gweithgareddau'n parhau ar ddiwedd yr ŵyl.
"Mae pob ardal yn wahanol i'w gilydd, ac mae gan bob ardal ei heriau'i hun.
"Mae'n hanfodol fod yr Eisteddfod, fel gŵyl sy'n teithio o ardal i ardal ar draws Cymru, yn ymweld ag ardaloedd lle mae angen cefnogi'r gwaith o godi ymwybyddiaeth am ein hiaith a'n diwylliant, ac mae hyn wedi bod yn wir dros y cyfnod diwethaf yn Wrecsam.
"Rydyn ni'n ddiolchgar tu hwnt i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r tîm ac i bawb o bob rhan o Gymru sydd wedi cefnogi'r Gronfa dros y flwyddyn ddiwethaf."

Llinos Roberts a'i diweddar ŵr, Aled Roberts
Fe gafodd Ms Roberts, gwraig y diweddar Aled Roberts a fu'n Gomisiynydd y Gymraeg, ei geni yn Rhosllannerchrugog ac mae wedi byw a gweithio ym mro'r Eisteddfod, fwy neu lai, ar hyd ei hoes.
Y tro diwethaf i'r Brifwyl ymweld â'r ddinas oedd yn 2011, ac Aled Roberts oedd cadeirydd y pwyllgor gwaith bryd hynny.
Ers 2013 mae Ms Roberts wedi bod yn bennaeth cyfathrebu corfforaethol a'r Gymraeg yng Ngholeg Cambria, sydd â nifer o safleoedd yn y gogledd-ddwyrain.
Gallwch wrando ar gyfweliad llawn gyda Llinos Roberts ar Beti a'i Phobol am 18:00 ddydd Sul 27 Gorffennaf ac ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2022