Jerry the Tyke: Canrif ers y cartŵn Cymreig cyntaf

  • Cyhoeddwyd

Gary Slaymaker sydd wedi bod yn ymchwilio i hanes y ffilmiau cyntaf wedi eu hanimeiddio a gafodd eu gwneud yng Nghymru yn 1925.

Jerry the TykeFfynhonnell y llun, British Pathé

Roedd ugeiniau'r ganrif ddiwetha'n gyfnod cyffrous iawn i sinema yng Nghymru, gyda dros 250 o theatrau ffilm yn agor yn y wlad yn ystod y ddegawd. Roedd 'na 20 sinema yng Nghaerdydd, yr adeg hynny.

Un o'r rhai mwya' yn Ewrop ar y pryd odd y Capitol Theatre, ar waelod Stryd y Frenhines (y Capitol Centre, fel mae'n cael ei adnabod dyddie hyn).

Gyda lle i dros 3,158 o gwsmeriaid yn yr adeilad, fuodd hon yn ganolbwynt sinematig i drigolion y brifddinas, tan ei dymchwel yn 1979.

Yn ogystal â'r ffilmiau di-ri, roedd y Capitol hefyd yn lle da ar gyfer cerddoriaeth fyw, ac yn eu tro fe wnaeth y Beatles, y Stones, Queen, Led Zeppelin a Bob Dylan berfformio yna.

Ond mae rheswm arall i ddathlu bodolaeth y Capitol, gan mai fan hyn yn 1925, fe wnaeth dau ddyn oedd yn gweithio fel projectionists yn yr adeilad, ddod at ei gilydd i greu cyfres o ffilmiau byr wedi'u hanimeiddio.

Cyn cyfnod Disney

Roedd Sid Griffiths yn animeiddiwr lleol, a Bert Bilby yn ffotograffydd; ac yn eu hamser sbâr, fe fuon nhw'n creu anturiaethau Jerry the Troublesome Tyke, gyda'r bennod gyntaf yn cael ei rhyddhau ar 27 Gorffennaf 1925.

Y peth pwysig i'w nodi fan hyn yw'r ffaith bod Jerry wedi cael ei greu dair blynedd cyn i Walt Disney gyflwyno Mickey Mouse i'r byd.

Dros gyfnod o ddwy flynedd fe wnaeth Griffiths a Bilby (gyda help animeiddiwr arall o Lundain, Brian White, nes 'mlaen) greu 40 darn o animeiddio gyda'r ci bach chwaraeus; rhyw bedwar munud o hyd ar gyfartaledd.

Mae'r hiwmor braidd yn amrwd ac yn hen ffasiwn ar adegau, ond mae'r animeiddio yn edrych yn siarp.

Disgrifiad,

Roedd Sid Griffiths i'w weld yn rhai o'r ffilmiau, yn 'sgwrsio' gyda Jerry

Un o'r pethau mwya diddorol am rai o'r ffilmiau yw'r ffaith bod Sid Griffiths i'w weld ar sgrîn, yn rhyngweithio gyda Jerry – syniad fyddai'n cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus iawn, ddegawdau'n ddiweddarach pan welwyd Tony Hart a'r cymeriad bach clai, Morph, yn perfformio ar y BBC.

Aeth Jerry 'mlaen i fod yn dipyn o seren ar y sgrîn fawr, ledled y byd, fel rhan o'r Pathé Pictorial – cylchgrawn newyddion ar gyfer y sinema, oedd yn cael ei ddangos cyn y brif ffilm mewn theatrau ym mhob gwlad.

Ond wrth i'r oes sain ddyfod i fewn i sinemâu, roedd llai o angen animeiddio di-sain ar theatrau, yn enwedig ar ôl i Mickey Mouse gyrraedd y sgriniau.

Fe aeth Sid Griffiths ymlaen i weithio gyda chwmnïau animeiddio fel Halas & Batchelor, a thra'n gweithio gyda rhain fe fuodd Sid yn rhan o'r tîm animeiddio wnaeth y clasur, Animal Farm, yn 1954.

Ail-ddarganfod trysorau

Ond diflannu fu hanes Jerry, y ci bach drygionus; ar goll yn niwl y gorffennol, nes bod y ffilmiau gwreiddiol yn cael eu darganfod yng nghrombil archif Pathé, yn stiwdio Pinewood, nôl ar ddechrau'r ganrif yma, gan y Welsh Animation Group – cymdeithas o animeiddwyr Cymraeg oedd yn awyddus i hyrwyddo Cymru fel cenedl animeiddio rhyngwladol.

Fe ddisgrifiwyd y darganfyddiad o ffilmiau byr Jerry fel, "the most comprehensive surviving material of a British screen cartoon creature".

Yn 2002, cafodd cynulleidfa newydd sbon weld anturiaethau Jerry the Tyke, wrth i'r ffilmiau byrion 'ma gael eu dangos ar sianel ddigidol BBC 2W (gyda throslais newydd sbon gan Rhys Ifans), ac o fan'na, aeth y ci bach ar daith i Ŵyl Ffilmiau Di-sain Pordenone yn yr Eidal, a wedyn i'r British Silent Film Festival.

Erbyn hyn, mae ffilmie byrion Jerry yn rhan o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Ma' nhw'n bethau hollol hudolus.

Disgrifiad,

Y ffilm gyntaf, a gafodd ei rhyddhau ar 27 Gorffennaf 1927

Yr hyn wnaeth ddenu pobl at Jerry oedd natur Brydeinig y straeon - hynny yw, lleoliadau fyddai'n gyfarwydd i bobl o Brydain - ynghyd â hiwmor swrreal a phigog, a chymeriad o'dd yn strab, o'dd byth yn ofni torri'r rheolau.

Roedd Jerry'n perthyn i'r un llinach â'r cymeriad Americanaidd, Fritz the Cat, a nhw o'dd y ddau gymeriad mwya poblogaidd wedi animeiddio mewn sinemâu yn ystod ugeiniau cynnar y ganrif ddiwetha.

Wrth i ffilmie sain ddod yn fwy poblogaidd a soffistigedig, oedran y gynulleidfa ffilm yn gwyro'n ifancach, a dylanwad Disney, fe droeodd ffilmiau a straeon animeiddio'n fwy apelgar i deuluoedd, ac yn anffodus doedd 'na ddim lle i anarchiaeth difyr Jerry a Fritz bellach.

Jerry the TykeFfynhonnell y llun, British Pathé

A hithau'n 100 mlynedd ers i Jerry ymddangos gynta, falle bod hi'n amser i'r arwr bach ddenu cenhedlaeth newydd sbon at ei anturiaethau?

Mae'r animeiddio dal yn llyfn, y gymysgedd o gartŵn a ffilm go iawn dal yn drawiadol, ac mae'r hiwmor yn ddigon eang ei apêl, ond eto yn meddu ar chwinc rhyfeddol.

Efallai mai Superted sy'n dod i'r meddwl gynta pan 'yn ni'n trafod cymeriadau animeiddio o Gymru; ond Jerry ddaeth gynta, ac mae e'r un mor siwpyr ag unrhyw arth bach uwcharwrol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.