Mewn Llun : Llwybr arfordir Cymru

  • Cyhoeddwyd
Y bont werdd ( llun Keith Moseley)
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont werdd yn sir Benfro yn fwa naturiol sydd wedi ei geu gan effaith erydu'r môr dros gannoedd o filoedd o flynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Goleudy Ynys Lawd ar Ynys Môn gyda golygfeydd a chlogwyni ysblennydd a miloedd o adar yn nythu

Disgrifiad o’r llun,

Ar adegau o lanw isel mae modd gweld olion coed cyntefig ar draeth y Borth. Credir bod y coed yn dyddio nôl 3,500 o flynyddoedd

Disgrifiad o’r llun,

Mae bae Barafundle yn sir Benfro wedi cael ei ddewis fel un o draethau gorau y Deyrnas Unedig

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pen y Gogarth yn benrhyn calchfaen ger Llandudno. Hwn oedd safle un o'r mwyngloddiau copr mwyaf y byd cynhanesyddol

Disgrifiad o’r llun,

Twyni Merthyr Mawr rhwng Porthcawl ac Aberogwr. Mae'r twyni yn codi i ucher o 200 troedfedd a nhw yw'r ail uchaf yn Ewrop.

Disgrifiad o’r llun,

Safle Nash Point ar arfordir Treftadaeth Morgannwg

Disgrifiad o’r llun,

Safle'r ogof lle cafwyd hyd i sgerbwd enwog y 'red lady of Paviland' ar benrhyn Gŵyr. O bosib rhain yw'r olion hynaf i gael eu darganfod ym Mhrydain.