Rabo Direct Pro12

  • Cyhoeddwyd
Chris Czekaj yn taclo Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chris Czekaj yn taclo Liam Williams

Scarlets 29-20 Gleision

Er i'r Scarlets orffen y tymor gyda buddugoliaeth dda yn erbyn y Gleision dod hynny ddim yn ddigon i sicrhau lle yn y pedwar uchaf a rowndiau terfynol cynghrair Pro12.

Glasgow wnaeth sicrhau'r pedwerydd safle gyda buddugoliaeth gyffyrddus yn erbyn Connacht.

Fe wnaeth y mewnwr Gareth Davies groesi dwywaith i'r Scarlets, ac roedd yna gais hefyd i Liam Williams. Dyfarnwyd cais gosb i'r tîm cartref hefyd ar ôl trosedd yn y sgarmes.

Andries Pretorius, Alex Cuthbert a Harry Robinson groesoddd i'r Gleision.

Aironi 11-18 Gweilch

Bydd y Gweilch yn wynebu Munster yn y rowndiau terfynol.

Bu'n rhaid iddynt weithio'n galed i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Aironi yn yr Eidal

Richard Fussell a'r asgellwr Hanno Dirksen gaeth ceisiau'r Gweilch, gyda gweddill y pwyntiau yn dod o esgid Dan Biggar.

Y Dreigiau 18-22 Leinster

Croesodd y blaenasgellwr Dan Lydiate a'r asgellwr Will Harries i'r Dreigiau wrth iddynt golli i'r tîm ar frig yr adran.

Hwn oedd 18fed buddugoliaeth Leinster y tymor hwn.

Bydd y Gwyddelod nawr yn wynebu Glasgow yn y rowndiau terfynol ddydd Sadwrn nesa.

Daeth gweddill pwyntiau'r Dreigiau o ddwy gic gosb Lewis Robling.

Ychwanegwyd trosgais gan yrr eilydd Adam Hughes, oedd ymlaen fel canolwr.

Canlyniadau dydd Sadwrn

Aironi 11-18 Gweilch

Caeredin 44-21 Treviso

Glasgow 24-3 Connacht

Munster 36-8 Ulster

Y Dreigiau 18-22 Leinster

Scarlets 29-20 Gleision