Ymgyrch yr ifanc am 'gyflog byw'

  • Cyhoeddwyd
Mae'r ymgyrchwyr ifanc wedi llunio deisebFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymgyrchwyr ifanc wedi llunio deiseb

Bydd criw o ymgyrchwyr ifanc sy'n gweithio gydag elusen Achub y Plant yn lansio ymgyrch genedlaethol ddydd Mawrth yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw'i haddewid i gyflwyno 'Cyflog Byw' yng Nghymru.

Mae'r criw o bobl ifanc rhwng 10 ac 16 oed wedi cyflwyno deiseb ar-lein yn galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones a'i lywodraeth i ddweud wrthyn nhw sut y maen nhw'n bwriadu gwireddu'r addewid a wnaed yn y maniffesto ar 'Gyflog Byw' i Gymru.

Maen nhw wedi penderfynu ymgyrchu ar y pwnc oherwydd y nifer sylweddol o blant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru ond sydd hefyd â'u rhieni yn gweithio.

Mae'r ymgyrchwyr ifanc yn dadlau y dylai Carwyn Jones gymryd y cam cyntaf drwy wneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad yn dod yn gyflogwyr 'Cyflog Byw' achrededig eu hunain.

Drwy wneud hyn mae'r bobl ifanc am weld Llywodraeth Cymru yn gosod esiampl dda i weddill Cymru gan annog cynghorau, prifysgolion, busnesau a'r Gwasanaeth Iechyd i ddod yn gyflogwyr Cyflog Byw.

Dilyn esiampl

Golyga hyn y byddai Cymru wedyn yn efelychu Llywodraeth Yr Alban sydd wedi dod yn gyflogwr 'Cyflog Byw' achrededig ac sydd wedi arwain ymgyrchoedd blaenllaw i annog sefydliadau a chyrff cyhoeddus eraill i ddilyn ei hesiampl.

'Cyflog Byw' yw'r lleiafswm cyflog o £7.20 yr awr (£8.30 yn Llundain) y dylid ei dalu er mwyn sicrhau safon byw sy'n dderbyniol yn ôl academyddion sy'n edrych ar gostau byw. Mae hynny yn cymharu gyda'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i oedolion sydd yn £6.08 yr awr.

Fe'i gwelir fel ffordd o fynd i'r afael â thlodi ymysg pobl sydd eisoes mewn gwaith a hefyd i ddelio gyda safonau byw gwael. Gall hefyd arwain y ffordd tuag at welliannau cymdeithasol o ran iechyd, lles ac addysg unigolyn a hefyd rhoi hwb i'r economi mewn cyfnod o gyni.

Dewiswyd yr ymgyrch 'Camu Ymlaen: Cyflog Byw i Fyw Bywyd' gan bobl ifanc o bob cwr o'r DU sy'n gweithio gydag Achub y Plant ar brosiectau yn ymwneud â thlodi plant.

Dywedodd un o'r ymgyrchwyr ifanc, Sophie Lacey, disgybl 16 oed yn ysgol uwchradd Willows yng Nghaerdydd:

"Dwi'n meddwl ei fod yn annheg nad yw rhai pobl yn ennill digon o arian i allu cael safon byw dda.

"Fe ges i fy ysbrydoli i ymgyrchu oherwydd rydw i'n mynd i fod yn chwilio am swydd yn y dyfodol a phan fydda i'n dod o hyd i un rwyf i eisiau gallu ennill digon i allu talu'r biliau a gallu mwynhau bywyd."

'Cynnig mwy'

Dywedodd James Pritchard, pennaeth Achub y Plant yng Nghymru:

"Heddiw mae'r bobl ifanc yma wedi herio ein gwleidyddion i wrando a chadw at eu haddewid o Gyflog Byw i Gymru.

"Mae'n bwysig i wleidyddion sylweddoli mai'r prif beth sy'n bwysig i'r bobl ifanc rydyn ni'n gweithio gyda nhw yw dod o hyd i swydd sy'n talu digon iddyn nhw allu cael safon byw deche'.

"Dylem fod yn gallu cynnig mwy i'n pobl ifanc na hynny; dylent allu cymryd yn ganiataol os ydyn nhw yn gweithio'n galed yn yr ysgol ac yn dod o hyd i swydd, y bydd y swydd honno yn talu iddyn nhw Gyflog Byw.

"Mae tua 60% o'r plant sydd yn byw mewn tlodi yng Nghymru yn byw ar aelwyd ble mae o leiaf un o'r rhieni yn gweithio. Felly byddai gwella cyfraddau tâl i'r rhieni hynny yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau'r plant tlotaf.

"Rydym yn gwybod fod amseroedd yn galed a chyllidebau yn dynn ond byddai'r gost i'r pwrs cyhoeddus i wellau cyfraddau cyflog i'r rhai sy'n ennill y symiau isaf yn gymharol fychan a byddai'r neges a fyddai hyn yn ei rhoi allan yn un bwysig iawn.

"Mae'r neges y byddai 'Cyflog Byw' i Gymru yn ei rhoi yn un nad yw Cymru yn barod i droi cefn ar y gweithwyr sy'n cael eu talu isaf ac yn golygu eu bod yn ei chael hi'n anodd cadw deupen llinyn ynghyd.

"Mae'n golygu na fydd Cymru yn ildio yn y frwydr yn erbyn tlodi plant ac na fydd Cymru yn derbyn dyfodol o gyni a chaledi a phryder i'w phobl ifanc."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol