Bellamy yng ngharfan gyntaf Coleman
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer ei gêm gyntaf lawn wrth y llyw.
Bydd Cymru'n wynebu Mecsico yn Efrog Newydd ar nos Sul, Mai 27.
Er gwaethaf sibrydion am ymddeoliad posib Craig Bellamy, mae ei enw wedi ei gynnwys yn y garfan, ond does dim lle i ymosodwr Caerdydd, Robert Earnshaw, na'r ddau amddiffynwr James Collins a Danny Gabbidon.
Roedd Bellamy, 32 oed, wedi bod yn ystyried ymddeol yn dilyn marwolaeth ei gyfaill a chyn rheolwr Cymru, Gary Speed y llynedd.
Enillodd gap rhif 68 i'w wlad yn gêm goffa Gary Speed yn erbyn Costa Rica ym mis Chwefror.
Golwr Chelsea, Rhys Taylor, yw'r unig enw newydd yn y garfan o 23.
Carfan Cymru v. Mecsico : Stadiwm MetLife, Efrog Newydd : Mai 27 -
Golwyr :-
Jason Brown (Aberdeen)
Lewis Price (Crystal Palace)
Rhys Taylor (Chelsea)
Amddiffynwyr :-
Chris Gunter (Nottingham Forest)
Neil Taylor (Abertawe)
Sam Ricketts (Bolton Wanderers)
Ashley Williams (Abertawe)
Adam Matthews (Celtic)
Neil Eardley (Blackpool)
Darcy Blake (Caerdydd)
Canol cae :-
Joe Allen (Abertawe)
Aaron Ramsey (Arsenal)
Andrew Crofts (Norwich)
David Vaughan (Sunderland)
Joe Ledley (Celtic)
Andy King (Caerlyr)
David Edwards (Wolverhampton Wanderers)
Ymosodwyr :-
Gareth Bale (Tottenham Hotspur)
Craig Bellamy (Lerpwl)
Hal Robson-Kanu (Reading)
Steve Morison (Norwich)
Simon Church (Reading)
Sam Vokes (Wolverhampton Wanderers)
Chwaraewyr wrth gefn -
Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers)
Adam Henley (Blackburn Rovers)
Rhoys Wiggins (Charlton Athletic)
Billy Bodin (Swindon Town)
David Cotterill (heb glwb)
Jermaine Easter (Crystal Palace)