Trwydded Gŵyl Rhuthun yn gwahardd alcohol

  • Cyhoeddwyd
Yr ŵyl yn 2008 (Llun: Ziggy Zomba)Ffynhonnell y llun, Ziggy Zomba
Disgrifiad o’r llun,

Yn y gorffennol mae pobl wedi gallu yfed ar y sgwâr yn ystod yr ŵyl (Llun: Ziggy Zomba)

Mae trefnwyr Gŵyl Rhuthun yn poeni y gallai cynlluniau i wahardd pobl rhag yfed alcohol gael effaith niweidiol ar yr ŵyl.

Yn y gorffennol roedd pobl oedd yn gwylio perfformiadau yn gallu yfed yr un pryd.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod wedi penderfynu gwahardd pobl rhag yfed y tu allan i dafarndai oherwydd bod lleiafrif yn y gorffennol wedi camymddwyn.

Mae'r ŵyl yn para am wythnos a'r uchafbwynt yw'r penwythnos gyda pherfformiadau byw ar sgwâr y dre.

Dywedodd Gruff Hughes, cadeirydd yr ŵyl, y gallai'r gwaharddiad "newid holl naws yr achlysur".

Ychwanegodd y gallai'r gwaharddiad hefyd effeithio ar dafarndai'r dref.

Yn y gorffennol, meddai, roedd pobl yn mynd a phrynu diodydd yn y tafarndai ac yna yn mynd alla i fwynhau adloniant ar y sgwâr.

Dawnsio

"Roedd yn rhaid i ni dderbyn y gwaharddiad, neu byddai'r cyngor heb roi trwydded yn caniatáu'r ŵyl," meddai.

Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'r cyhoedd yn deall y sefyllfa ac yn parchu'r newid.

"Rwy'n gobeithio yr aiff bopeth yn iawn. Bydd yna ganu a dawnsio yn y sgwâr rhwng dau ac wyth o gloch. Erbyn naw o'r gloch byddwn wedi clirio'r safle

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor sir Ddinbych fod lleiafrif o bobl yn y gorffennol wedi ymddwyn mewn modd gwrth gymdeithasol.

Ffynhonnell y llun, S Wainwright
Disgrifiad o’r llun,

Bydd sgwâr y dref ar gau ar gyfer yr ŵyl (Llun: S Wainwright)

Oherwydd hynny roedd y drwydded i gynnal yr ŵyl yn mynnu bod yr achlysur yn cael ei hyrwyddo fel gŵyl ddi-alcohol i'r teulu.

Dywedodd yr arolygydd Gary Kelly o Heddlu'r Gogledd fod gan yr heddlu'r hawl i gymryd alcohol oddi ar unigolion pan oedd hynny yn briodol.

"Y nod yw atal trosedd a chamymddwyn."