Ewro 2020 i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm y Mileniwm
Disgrifiad o’r llun,

Gallai Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd fod yn rhan o unrhyw gais swyddogol

Mae Cymru, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon wedi mynegi diddordeb ffurfiol mewn cynnal pencampwriaeth pêl-droed Ewro 2020.

Mae cymdeithasau pêl-droed y tair gwlad wedi dweud wrth UEFA (corff rheoli pêl-droed Ewrop) eu bod am gynnal y gystadleuaeth ar y cyd.

Hyd yma Twrci yw'r unig wlad i ddweud eu bod am gynnal y gystadleuaeth.

Mae ffynhonnell sy'n agos i UEFA wedi datgelu bod cais ysgrifenedig wedi cael ei dderbyn gan y gwledydd Celtaidd.

Hanner nos dydd Mawrth yw'r terfyn amser i gyflwyno ceisiadau neu i fynegi diddordeb.

Byddai'n rhaid i'r rhai sy'n gwneud cynnig ddarparu hyd at 10 stadiwm i gynnal gemau yn y Bencampwriaeth, gan y bydd yn ehangu o 16 tîm i 24 ar ôl 2016.

Cais ar chwâl

Fe fyddai'n anodd i'r Alban a Chymru ddarparu cynifer â hynny o safleoedd sy'n cydymffurfio â gofynion UEFA, ond fe fyddai cynnwys Iwerddon yn ateb y broblem.

Nid yw datgan diddordeb yn ffurfiol yn gorfodi'r gwledydd i wneud cais ffurfiol - does dim disgwyl penderfyniad gan UEFA am 18 mis.

Yn y gorffennol, mae'r gwledydd Celtaidd wedi bod yn aflwyddiannus wrth geisio am gynnal prif gystadlaethau. Cyflwynwyd cais gan Iwerddon a'r Alban yn 2008, ond fe wrthodwyd hwnnw yn fuan yn y broses.

Roedd Cymru a'r Alban wedi ystyried gwneud cais yn 2016, ond fe benderfynwyd peidio â gwneud cais ffurfiol yn y diwedd.

Mae cais Twrci ar chwâl ar hyn o bryd yn dilyn honiadau o dwyllo canlyniadau gemau yn y wlad. Mae'r cais hefyd yn gwrthdaro gyda chais Istanbul i gynnal y Gemau Olympaidd yn yr un flwyddyn.

Mae Llywydd UEFA, Michel Platini, wedi dweud y bydd ond yn cefnogi cais Twrci os na fydd Istanbul yn llwyddo gyda'r cais am y Gemau Olympaidd.

Georgia

Cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon ddydd Mawrth y byddan nhw'n cyflwyno cais i gynnal y bencampwriaeth yn 2020 ar y cyd gyda'r Alban a Chymru.

Dywedodd Jonathan Ford, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru:

"Nid cais ffurfiol i gynnal y gystadleuaeth yw hwn, dim ond mynegi diddordeb. Bydd hynny'n ein galluogi i gael gwybodaeth gan UEFA fel y gallwn asesu, yn annibynnol a gyda'n gilydd, os y dylwn wneud cais ffurfiol ai peidio."

Yr unig wlad arall i fynegi diddordeb hyd yma yw Georgia er gwaethaf amheuon y bydd y wlad yn medru ateb y galw am 10 stadiwm.

Ond dywedodd Lado Vardzelashvili, gweinidog chwaraeon Georgia, y bydd cynllun i godi sawl stadiwm fodern newydd yn dechrau eleni.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol