Y prop Duncan Jones i wynebu Cymru

  • Cyhoeddwyd
Duncan JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Duncan Jones wedi ennill 57 cap dros Gymru

Bydd y prop Duncan Jones yn un o dri Chymro fydd yn chwarae yn erbyn ei wlad wrth i'r Barbariaid ymweld â Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

Mae Jones, 31 oed, wedi ennill 57 cap i Gymru, ond bydd yn gwisgo crys y Barbariaid ar Fehefin 2, ynghyd a dau Gymro arall Shane Williams a Stephen Jones.

Hefyd yn nhîm y Barbariaid y mae John Smit o'r Springbok a Mils Muliaina o Seland Newydd.

Y gêm yn erbyn y Barbariaid fydd yr un olaf cyn i garfan Cymru deithio i Awstralia.

Dywedodd yr hyfforddwr dros dro, Robert Howely, y bydd 15 o chwaraewyr Cymru yn teithio i Awstralia cyn y gêm yn erbyn y Barbariaid.

Carfan y Barbariad:

OLWYR - Isa Nacewa (Fiji), Mils Muliaina (Seland Newydd), Ian Balshaw (Lloegr), Cedric Heymans (Ffrainc), Shane Williams (Cymru), Paul Sackey (Lloegr), Sailosi Tagicakibau (Samoa), Eliota Fuimaono-Sapolu (Samoa), Mike Tindall (Lloegr), Damien Traille (Ffrainc), Felipe Contepomi (Ariannin), Stephen Donald (Seland Newydd), Stephen Jones (Cymru), Rory Lawson (Yr Alban), Jerome Fillol (Ffrainc).

BLAENWYR - Schalk Brits (De Affrica), Benoit August (Ffrainc), John Smit (De Affrica), Aled de Malmanche (Seland Newydd), John Afoa (Seland Newydd), Duncan Jones (Cymru), B J Botha (De Affrica), Neemia Tialata (Seland Newydd), Jerome Thion (Ffrainc), Mick O'Driscoll (Iwerddon), Anton van Zyl (De Affrica), Pelu Taele (Samoa), Raphael Lakafia (Ffrainc), Antoine Burban (Ffrainc), Akupusi Qera (Fiji), John Beattie (Yr Alban), Pedrie Wannenburg (De Affrica), Juan Manuel Leguizamon (Ariannin).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol