Owen Smith yw llefarydd Llafur ar Gymru
- Cyhoeddwyd
Aelod Seneddol Pontypridd Owen Smith yw llefarydd newydd Llafur ar Gymru.
Mae'n olynu AS Castell-nedd Peter Hain.
Cyhoeddodd Mr Hain ddydd Llun ei fod yn gadael mainc blaen yr wrthblaid.
Cafodd Mr Smith, 42 oed, ei ethol i Dŷ'r Cyffredin yn 2010.
O fewn blwyddyn roedd arweinydd Llafur Ed Miliband wedi ei ddyrchafu i fod yn aelod o dîm Trysorlys yr Wrthblaid.
Mae Mr Smith yn gyn-newyddiadurwr gyda BBC Cymru.
Ar ôl hynny bu'n ymgynghorydd arbennig i'r llywodraeth ac yn lobio dros y cwmni fferyllol Pfizer.
Ef oedd rheolwr ymgyrch etholiadol Llafur ar gyfer etholiadau'r cynulliad y llynedd.
'Syniadau newydd'
Dywedodd mai ei flaenoriaethau ar gyfer Cymru fydd swyddi a thwf economaidd.
Cyhuddodd Ysgrifennydd Cymru o fethu a siarad dros bobl Cymru o fewn y cabinet.
"Fy mlaenoriaeth yw gweithio gyda Carwyn Jones i ddod a syniadau newydd a swyddi newydd i Gymru," meddai Mr Smith.
"Mae record drychinebus y llywodraeth glymblaid dan arweinyddiaeth y Ceidwadwyr wedi arwain at ddiweithdra mawr, ac mae'n rhaid i Lafur sicrhau bod Cymru yn cael yn ôl ar ei thraed."
Cyhuddodd David Cameron a Cheryl Gillan o ymosod a throi trwyn ar Lywodraeth Cymru.
"Ond y gwir yw mai Carwyn Jones a'i dîm sy'n wynebu'r gwaith anodd o amddiffyn Cymru rhag Toriadau'r Ceidwadwyr, a hynny wrth weithredu agenda positif Llafur."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan ei bod yn llongyfarch Mr Smith ar ei benodiad, a'i bod yn edrych ymlaen at weithio "mewn modd adeiladol gydag o er budd Cymru".
"Mae yna sawl her sy'n effeithio Cymru sy'n well i'w datrys drwy gydweithio," meddai.
"Fe wnes i hyn gyda'i ragflaenydd ac rwy'n parau gyda'r nod o wneud hynny o ran ein perthynas gyda Llywodraeth Cymru."