Cyngor Gwynedd i ystyried cynlluniau i gau dwy ysgol gynradd

Dim ond 11 o ddisgyblion sydd yn Ysgol Gynradd Nebo ar hyn o bryd
- Cyhoeddwyd
Bydd cynghorwyr Gwynedd yn trafod cynlluniau i gau dwy ysgol gynradd yn ardal Nantlle yn sgil pryderon dros nifer y disgyblion.
Mae disgwyl i gabinet Cyngor Gwynedd gynnal ymgynghoriad dros ddyfodol Ysgol Gynradd Nebo, sydd ag ond 11 o ddisgyblion er bod lle i 51.
Bydd dyfodol Ysgol Baladeulyn, sydd ag ond chwe disgybl er bod 'na le i 55, hefyd yn cael ei ystyried.
Os yw'r cynlluniau'n cael eu gwireddu, yn dilyn ymgynghoriad statudol, byddai'r ddwy ysgol yn cau ar ddiwedd Rhagfyr 2026.
'Her i athrawon'
Yn ôl swyddogion y sir, mae pryderon wedi bod dros niferoedd y disgyblion yn y ddwy ysgol ers peth amser, gyda rhagolygon yn dangos nad oes disgwyl i'r sefyllfa wella'n sylweddol dros y blynyddoedd i ddod.
Mae adroddiad y cabinet yn nodi bod y gost fesul disgybl ar gyfartaledd yn £25,876 yn Ysgol Nebo ac £14,953 ym Maladeulyn, o'i gymharu â'r cyfartaledd sirol o £5,780.
Roedd hefyd yn nodi y gallai'r sefyllfa bresennol fod yn "her i'r athrawon wrth ddarparu cwricwlwm ar gyfer ystod eang o oedrannau o fewn yr un dosbarth, ynghyd â'r ffaith fod yna rai blynyddoedd heb ddysgwyr".
Pe bai'r ddwy ysgol yn gorfod cau mi fyddai disgyblion Ysgol Nebo yn mynychu Ysgol Llanllyfni o Ionawr 2027, tra byddai disgyblion Ysgol Baladeulyn yn symud i Ysgol Talysarn.

Dim ond chwe disgybl sydd yn Ysgol Baladeulyn, a dyw swyddogion ddim yn gweld y sefyllfa yn gwella'n sylweddol yn y blynyddoedd nesaf
Yn ôl ffigyrau Cyngor Gwynedd, dim ond 25% o'r plant sy'n byw yn nalgylch Ysgol Baladeulyn sy'n dewis mynychu'r ysgol.
O ganlyniad, dim ond chwe disgybl llawn amser sy'n mynychu'r ysgol eleni gyda dau arall yn y meithrin.
Ond wrth ymateb i adroddiad y cabinet, dywedodd y cynghorydd Peter Thomas y byddai colli Ysgol Baladeulyn yn "ergyd drom i bentref Nantlle".
"Mae'r ysgol yng nghalon y pentref ac yn ymwneud â'i chymuned a defnyddio cyfleusterau'r pentref yn achlysurol," meddai.
"Pe byddai'r cynnig arfaethedig yma'n cael ei wireddu ni fyddai teuluoedd Cymry Cymraeg am ddod i fyw i'r pentref i fagu eu plant ac rwyf yn tybio bydd mewnfudwyr yn prynu'r tai ac yn gwneud y pentref yn le diarth."
Ychwanegodd y byddai'n ffafrio gweld Ysgol Baladeulyn yn aros ar agor drwy ffederaleiddio gydag Ysgol Talysarn.
Byddai model o'r fath, ychwanegodd, "yn cadw Nantlle yn bentref lle all teuluoedd magu eu plant mewn cymdeithas Gymraeg gyda hyder am ddyfodol yr ysgol a'r iaith."
'Yr ysgol yn ased i'r Gymraeg'
Yn ardal Nebo, 29% o blant y dalgylch sy'n mynychu'r ysgol leol, sy'n gadael ond 11 disgybl llawn amser ac un arall yn y dosbarth meithrin.
Yn ymateb i'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Nebo, fe wnaeth y cynghorydd lleol, Dafydd Davies, gydnabod bod yr ysgol "mewn sefyllfa fregus" ac yn rhan o "batrwm ehangach ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd y sir".
"Mae'r ysgol yn ased i'r Gymraeg a diwylliant lleol, bydd ei golli yn golygu colled barhaol i'r pentref," meddai.
Ond mae'n cefnogi galwadau gan y corff llywodraethol i gynnig y safle fel darpariaeth i gefnogi a meithrin plant ag anghenion cymdeithasol ac emosiynol, lle mae addysg brif ffrwd yn heriol iddynt.
Byddai hyn, meddai, "yn dangos arweiniad cenedlaethol ar sut i gryfhau ysgolion gwledig, ac yn rhoi dewis cadarnhaol yn hytrach na chau ysgol werthfawr".
Mae disgwyl i Gabinet Cyngor Gwynedd drafod y cynigion yn ystod eu cyfarfod ddydd Mawrth nesaf.