Cyhuddo dau ddyn yn dilyn lladrad Amgueddfa Sain Ffagan

Sain Ffagan
  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo yn dilyn lladrad yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Mae Gavin Burnett, 43, a Darren Burnett, 50, o Northampton wedi'u cyhuddo o ladrata ac mae disgwyl i'r ddau ymddangos yn Llys Ynadon Northampton ddydd Mercher.

Mae dynes 45 oed o Sir Northampton hefyd wedi ei harestio fel rhan o'r ymchwiliad, ac mae wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i ymchwilio i'r achos ar ôl cael eu galw i'r digwyddiad am tua 00:30 fore Llun.

Cafodd nifer o eitemau, gan gynnwys gemwaith aur o'r Oes Efydd, eu dwyn o arddangosfa yn y prif adeilad.

Mae'r llu yn parhau i chwilio am yr eitemau a gafodd eu dwyn.

Map
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ddau ddyn eu harestio brynhawn Mawrth

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers, o Heddlu'r De: "Hoffem ddiolch unwaith eto i Heddlu Sir Northampton am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad, i'r amgueddfa am ei chefnogaeth, ac i aelodau'r cyhoedd a ymatebodd i'n hapêl am wybodaeth."

Yn y cyfamser, mae Heddlu Sir Northampton yn dweud bod y ddau ddyn hefyd wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad ag achosion eraill o ladrata rhwng 28 Gorffennaf ac 14 Awst.

Mae Gavin Burnett a Darren Burnett wedi eu cyhuddo o un achos o gynllwynio i ladrata, ac un achos o gynllwynio i ddwyn cerbydau yn dilyn "sawl achos o ladrata mewn cartrefi yn Northampton, ac ar ôl i nifer o geir gael eu dwyn".

Mae Gavin Burnett hefyd wedi ei gyhuddo o ymddwyn mewn modd bygythiol, ac o fygwth lladd.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol