43 o draethau'n cael y Faner Las yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi cyhoeddi bod 43 o draethau a 5 marina wedi ennill gwobr y faner las eleni.
Mae'r faner yn cael ei gwobrwyo i draethau am safonau glendid y tir a'r môr, a hefyd am gael eu rheoli'n gynaliadwy.
Y Sefydliad Addysg Amgylcheddol - sefydliad annibynnol nid-am-elw sy'n rhoi'r gwobrau, ond maen nhw'n cael eu gweinyddu yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus.
Sir Benfro sydd unwaith eto ar frig y rhestr gyda 12 o draethau'n ennill baner. Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy'n dilyn gyda chwech yr un.
Bydd seremoni i nodi'r cyhoeddiad ar draeth Tywyn yng Ngwynedd ddydd Iau, Mai 31, lle bydd baneri'n cael eu cyflwyno i gynrychiolwyr gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru.
'Adnoddau rhagorol'
Dywedodd prif weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus, Lesley Jones, ei fod yn falch gweld traethau Cymru'n cael eu cydnabod.
"Gall pawb sydd yn ymweld â Chymru fod yn siŵr bod yr adnoddau'n rhagorol a bod yma draethau a dŵr ymdrochi o'r radd flaenaf.
"Ni fu erioed adeg well i fwynhau ein traethau a'n harfordir gwych."
Dyma'r gwobrau cyntaf i gael eu dyfarnu ers agor llwybr arfordir Cymru gyfan, a arweiniodd at arweinlyfr y Lonely Planet yn disgrifio Cymru fel "y lle gorau ar y ddaear" i fynd ar ymweliad.
'Cyfraniad hanfodol'
Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Busnes Cymru, Edwina Hart, bod hyn yn newyddion da iawn i'r diwydiant twristiaeth.
"Mae'n anfon neges gadarnhaol iawn i bawb sydd am ymweld â Chymru, sef bod yma ddigon o draethau gwych sydd yn gwbl ddiogel, a digon o gyrchfannau glan môr a marinas i bawb eu mwynhau.
"Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi Cymru ac mae'r newyddion diweddaraf hyn, ynghyd ag agoriad Llwybr Arfordir Cymru'n ddiweddar, yn gyfle gwych i hyrwyddo golygfeydd arfordirol hyfryd Cymru a denu mwy o ymwelwyr i Gymru."
Fe wnaeth Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, longyfarch pawb sy'n gweithio'n galed "i sicrhau bod y dŵr ar ein traethau o ansawdd da er mwyn i bobl Cymru ac ymwelwyr fedru eu mwynhau".
"Rwyf wedi ymrwymo i wella mynediad pawb sydd yn byw yng Nghymru at ein hamgylchedd naturiol.
"Yn gynharach y mis hwn agorais Lwybr Arfordir Cymru ac rwy'n annog pawb i wneud amser i archwilio ein traethau a'n harfordir gwych."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011