Staff ysbyty'n 'gandryll' am atal ôl-daliadau ar y funud olaf

Melissa Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Melissa Griffiths, mae amodau'r ysbyty yn achosi "straen enfawr" ar weithwyr cymorth iechyd

  • Cyhoeddwyd

Mae gweithwyr cymorth gofal iechyd yn ardal Abertawe yn dweud bod "Nadolig drosodd" ar ôl cael gwybod bod cytundeb i gywiro blynyddoedd o dandaliadau wedi'i dynnu'n ôl ar y funud olaf.

Mae aelodau'n dweud eu bod yn cael eu gorfodi i gyflawni dyletswyddau sy'n mynd y tu hwnt i'w graddau cyflog, ac yn galw am bleidlais ar gyfer streic.

Dywedodd un gweithiwr cymorth gofal iechyd bod pobl yn "gandryll" gyda staff yr ysbyty yn teimlo'n "isel iawn".

Yn ôl Bwrdd Iechyd Bae Abertawe bydd y gweithwyr yn derbyn y taliad cyn gynted â phosib.

Rhes o bobl yn dal arwyddion streic 'Pay Us' ar balmant tu allan i Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o weithwyr cymorth iechyd yn dweud eu bod yn cwblhau dylestwyddau nyrs neu ddoctor ar adegau

Yn ôl canllawiau'r Gwasanaeth Iechyd dylai staff ym mand cyflog 2 fod yn gwneud dyletswyddau gofal personol, fel ymolchi a bwydo cleifion.

Ond mae llawer yn dweud eu bod wedi gorfod gwneud pethau fel newid caniwla a monitro gwaed, dyletswyddau sy'n mynd y tu hwnt i'w band cyflog.

"Dyna swydd nyrs neu ddoctor," meddai Melissa Griffiths, un o weithwyr cymorth gofal iechyd yr ysbyty.

Er ei bod hi'n teimlo'n "anghyfforddus" yn gwneud y dyletswyddau hynny, dywedodd ei bod hi'n ei gwneud nhw er mwyn iechyd a lles ei chleifion.

"Mae'r amodau gwaith yn yr ysbyty yma yn straen enfawr i bob gweithiwr iechyd.

"Er bod staffio yn brin mae dal disgwyl i ni wneud popeth mewn cyn lleied o amser.

"Dylai hwn ddim fod yn digwydd.

"Mae pawb yn teimlo mor isel, does neb eisiau bod yma. Mae pobl yn gandryll."

Aeth ymlaen i ddweud bod y newid yma gan y bwrdd iechyd yn ergyd enfawr i bobl a'u teuluoedd cyn y Nadolig, am eu bod nhw wedi disgwyl y taliadau.

"Roedden ni'n dibynnu ar yr arian yna achos glywon ni ein bod ni mynd i dderbyn yr arian.

"Ond nawr, mae Nadolig ni drosodd.

"Ry' ni eisiau gwybod pryd ry' ni am gael yr arian ac os mai cyn Nadolig fydd hynny, i wybod os gewn ni Nadolig o gwbl."

'Llanast yn yr ysbyty'

Dywedodd Claire Thomas, sydd hefyd yn weithiwr cymorth gofal iechyd, ei bod hi'n gweithio shiftiau 12 awr heb doriad.

"Rwy'n cerdded tua wyth milltir o gwmpas y ward yn gwneud y tasgau sydd angen.

"Rydyn ni'n haeddu'r taliad yna ond mae wedi ei gymryd wrthon ni."

Yn ôl Georgina Thomson, "mae'n llanast" yn yr ybsyty.

"Rydym yn dechrau gofal y cleifion, rydym yn trefnu brecwast, rydym yn sicrhau bod pob angen iechyd yn cael ei gyflawni.

"Rydym yn gwneud ECGs a cymryd pwysau gwaed, gofal cathetr ond dy' ni dim yn cael ein talu am unrhyw un o'r dyletswyddau hynny, dim ond gofal personol ydym yn ei wneud."

Mae Lianne Owen yn gwisgo het borffor gyda'r enw UNISON arno. Mae ganddi sbectol sgwar du a sgarff porffor a gwyrdd. Mae'n sefyll o flaen sawl person arall sydd hefyd yn protestio.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lianne Owen o undeb Unsain bod yr oedi yn "achosi problemau gwirioneddol"

Yn ôl undeb Unsain yr unig opsiwn sydd ar ôl bellach yw gweithredu'n ddiwydiannol.

Fe fydd angen i aelodau bleidleisio yn gyntaf cyn iddynt fynd ar streic.

Dywedodd Lianne Owen o Unsain mai "dim ond un peth" all protestio gyflawni, a hynny yw "bod y bwrdd iechyd yn gwneud beth wnaethon nhw addo gwneud Rhagfyr diwethaf", meddai.

"A hynny oedd bod cytundeb wedi'i gytuno a thaliad erbyn 31 Rhagfyr.

"Mae'r staff hyn wedi cadw at eu rhan nhw o'r addewid a chwblhau'r holl bapurau.

"Maen nhw hefyd yn gwneud yr holl ddyletswyddau clinigol ond ddim yn cael eu talu amdanynt.

"Nawr mae'r oedi hyn yn achosi problemau gwirioneddol."

Bwrdd yn 'deall rhwystredigaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe eu bod yn "gwerthfawrogi cyfraniad rhyfeddol" gweithwyr cymorth gofal iechyd.

"Rydym yn gwybod bod gweithwyr ym mand 2 wedi bod yn gwneud dyletswyddau sydd fel arfer yn gyfrifoldeb ar staff band 3.

"Ers Mai 2024, rydym wedi gweithio'n galed i gyrraedd cytundeb a nodi'r pa weithwyr band 2 ddylai fod mewn band uwch.

"Ond, mae'r mater wedi cael ei drafod yn genedlaethol ers hynny, gyda gweithwyr GIG yn negodi âg undebau ledled Cymru."

Ychwanegodd y bwrdd bod y penderfyniad i roi saib ar y taliad lleol er mwyn "gwthio trafodaethau ledled Cymru i gael eu cwblhau fel na fydd ein staff yn wynebu anfantais".

Dywedodd llefarydd bod y bwrdd yn "deall eu rhwystredigaeth", ac y byddai'r bwrdd yn talu'r gweithwyr cyn gynted â phosib.