Cais i ddatblygu parc paneli solar enfawr yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o'r Almaen wedi gwneud cais i ddatblygu parc paneli solar gwerth tua £20m yn Sir Benfro.
Petai cais Kronos Solar yn cael ei dderbyn, y parc yn Cosheston fydd un o'r rhai mwyaf o'i fath ym Mhrydain.
Fe fydd y safle 25 hectar yn cynhyrchu 13 megawat o drydan.
Dywedodd un o gyfarwyddwyr Kronos, Dr Alexander Arcache, wrth y BBC bod y safle yn West Farm "wedi ei ddewis yn ofalus."
"Mae'n bwysig bod pobl yn cefnogi ynni adnewyddol a'n bod ni'n lleddfu unrhyw ofnau".
Parc solar cyntaf
Y llynedd fe wnaeth parc solar cyntaf Cymru ddechrau cynhyrchu trydan ar stad Rhosygilwen yn Sir Benfro.
Cafodd bron 10,000 o baneli solar eu mewnforio o'r Unol Daleithiau a'u gosod mewn 12 rhes ar gae chwe erw.
Mae Llywodraeth y DU wedi lleihau cymhorthdal i fuddsoddwyr mawr mewn ynni haul.
Penderfynodd Adran Ynni a Newid Hinsawdd y llywodraeth leihau'r cymhorthdal i ffermydd solar mawr o Awst 1 y llynedd.
Mae ffermydd dros 250 cilowat hyd at 5 megawat yn cael hawlio 8.5 ceiniog am bob cw/awr.
Yn achos cynlluniau rhwng 150 a 250 cw, y tâl yw 15c ac i rai rhwng 50 a 150 cw, 19c.