Prosiect theatr yn trafod Tesco
- Cyhoeddwyd
Bydd trydydd prosiect Cynulliad a etholwyd yn ddemocrataidd National Theatre Wales yn cael ei gynnal ym Machynlleth ar Fehefin 8.
Y syniad llwyddiannus - a drechodd cystadleuaeth frwd mewn pleidlais ar-lein - yw creu digwyddiad perfformio/dadl yn adeilad Y Plas ar y cwestiwn a ddylai'r dref groesawu neu wrthod cangen newydd o Tesco.
Mae rhaglen Cynulliad National Theatre Wales yn rhedeg ochr yn ochr â'i brif gynyrchiadau, ac yn cynnig cyfle i gyfranogwyr brofi theatr fel gofod ar gyfer archwilio a thafod.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y cwmni, cynhaliwyd Cynulliadau mewn tafarnau, siopau gwag, banciau segur, pebyll mawr, gorsafoedd bysiau a siopau hufen ia, ac arweiniwyd at greu gorsaf radio yn Abermaw, a chlwb gwneud ffilmiau ym Mhrestatyn.
'Amrywiaeth barn'
Eleni, sef ail flwyddyn y cwmni, mae cyfanswm o wyth prosiect creadigol yn cael eu gwneud dros 18 mis, mewn pedair ardal - de, canolbarth, gogledd a gorllewin Cymru.
Gwahoddir cwmnïau ac unigolion i gyflwyno cynigion, y mae tri yn cyrraedd rhestr fer ar bob cam cyflwyno rhanbarthol.
Gofynnir i'r cyhoedd bleidleisio dros eu hoff brosiect ar-lein, ac yna cymeradwyir yr hoff brosiect.
Cyhoeddir manylion wrth i brosiectau gael eu cyhoeddi ar wefan National Theatre Wales, dolen allanol.
Arweinir y trefnwyr gan grŵp o ffrindiau yn cynnwys Jenny Hall ac Esther Tew.
"Yng ngoleuni'r posibilrwydd o adeiladu cangen newydd o Tesco yma, roeddem yn teimlo nad oedd Machynlleth wedi cael sgwrs iawn am y peth," meddai Ms Tew.
"Pan welson ni bod National Theatre Wales yn edrych am syniadau am Gynulliad yng nghanolbarth Cymru, meddylion ni mai dyma ein cyfle o gael dadl newydd, ac i rywun o du allan y dref i'w fframio."
Dywedodd Cysylltydd Creadigol Abdul Shayek, sy'n cyfarwyddo Cynulliadau'r cwmni: "Mae Cynulliad 03 yn her enfawr o ganlyniad i 'r amrywiaeth barn a'r angerdd mewn perthynas â'r mater hwn yn y gymuned leol.
"Bydd yr amrywiaeth barn hwn, gobeithio, yn helpu i greu noson i'w chofio, a dangos pa mor angerddol yw Machynlleth ar y pwnc hwn."