Milwr o'r Cymry Brenhinol wedi marw yn Afghanistan

  • Cyhoeddwyd

Mae milwr o Fataliwn Cyntaf Catrawd y Cymry Brenhinol wedi marw yn Afghanistan.

Roedd y milwr ar batrôl yn ardal Nahr-e Saraj yn nhalaith Helmand.

Cafodd y cerbyd yr oedd yn teithio ynddo ei daro gan fom.

Mae teulu'r milwr, sydd heb ei enwi eto, wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

"Mae'n meddyliau a'n gweddïau gyda theulu a chyfeillion y milwr ar amser anodd iawn," meddai'r Uwch-Gapten Ian Lawrence o'r Tasglu yn Helmand.

Mae 415 o Brydeinwyr wedi cael eu lladd yn Afghanistan, ers bod milwyr Prydain wedi bod yn y wlad ers 2001.

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi gosod dyddiad o Ragfyr 2014 i ddod a'r holl filwyr o Brydain o Afghanistan.

Credir y gallai hyd at 200 o aelodau'r tasglu arbennig aros yn y wlad wedi hynny i daclo terfysgaeth.

Cyhoeddwyd manylion am farwolaeth y milwr yn fuan wedi ail ymweliad arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, a'r wlad.

Dywedodd mai'r ffordd orau i anrhydeddu'r aberth gan y milwyr oedd i sicrhau nad yw'r wlad yn methu.

"Ond mae 'na lawer o waith i'w wneud eto," meddai Mr Miliband.