Dyn yn euog o gam-drin ei bartner dros gyfnod o saith mlynedd

Clywodd y llys fod Villafane wediyn ymosod ar Sally Ann Norman yn rheolaidd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth orfodi ei bartner i wisgo penwisg i guddio'i chleisiau wedi ei gael yn euog o reoli drwy orfodaeth, tagu ac achosi niwed corfforol gwirioneddol.
Clywodd llys fod Sally Ann Norman, 64 - partner Antonio Villafane, 67, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Anthony Manson - wedi dioddef blynyddoedd o gamdriniaeth.
Roedd y ddau yn byw gyda'i gilydd mewn carafan yn ardal Tyndyrn, Sir Fynwy cyn i Ms Norman ei adael ym mis Gorffennaf 2022 ar ôl iddo geisio ei thagu.
Dywedodd y barnwr fod Villafane - gafwyd yn euog hefyd o dwyll a chlwyfo - yn wynebu "dedfryd sylweddol o garchar".
Cafwyd Villafane yn ddieuog o un cyhuddiad o anafu yn fwriadol.
- Cyhoeddwyd30 Medi
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd fod Villafane wedi dweud wrth Sally Ann Norman ei fod yn hyfforddwr llais a cherddor pan wnaethon nhw gyfarfod yn 2015.
Gadawodd Ms Norman ei gŵr ar y pryd ac aeth i fyw mewn fan gyda Villafane, gan ddefnyddio rhywfaint o'r £280,000 o'i setliad ysgariad i brynu tir yn Nyffryn Gwy yn Sir Fynwy.
Roedd y ddau eisiau byw "oddi ar y grid", ac nid oedd gan eu cartref newydd gyflenwad dŵr na thrydan. Bob bore byddai'n rhaid i Ms Norman gasglu dŵr o nant gerllaw a thorri coed ar gyfer y tân.
Ond clywodd y llys fod trais wedi dod yn rhan o fywyd bob dydd y pâr, a bod Villafane yn ymosod ar Ms Norman yn rheolaidd.
'Perygl i fenywod'
Dywedodd Ms Norman wrth yr heddlu fod yr ymosodiadau mor niferus nad oedd hi'n gallu eu cyfri bellach.
Esboniodd mewn cyfweliad ei bod wedi cael ei dyrnu a'i chicio, ei tharo â ffyn cerdded trwm, ei gorfodi i aros mewn carafán ar y tir, a hynny am oriau ar y tro, yn aml heb fwyd na dŵr.
Ar un achlysur, dywedodd fod Villafane wedi clymu ei dwylo a'i thraed cyn gwthio ei phen i mewn i gist yn llawn dŵr budr.
Cafodd ei gorfodi hefyd i wisgo gorchudd wyneb llawn i guddio ei chleisiau.
Roedd y ddau yn dilyn crefydd Sufi, ond clywodd y llys nad yw menywod fel arfer yn gwisgo'r gorchudd wyneb llawn.
Y noson cyn i Ms Norman adael ym mis Gorffennaf 2022, fe wnaeth Villafane geisio ei thagu wrth iddyn nhw fwyta pryd o fwyd.
Dywedodd ei bod hi'n meddwl y byddai'n ei lladd a'i chladdu mewn twll a oedd wedi'i gloddio ar eu tir.
Pan ddechreuodd yr heddlu chwilio am Villafane yn haf 2023, cafodd ei ddisgrifio gan swyddogion fel "perygl i fenywod".
Dywedodd y ditectif gwnstabl Liam Young o Heddlu Gwent fod hwn yn un o'r achosion mwyaf difrifol o gam-drin domestig iddo ei weld yn ei yrfa.
"Roedd clywed rhai o'r manylion wir yn ddirdynnol, yr unigrwydd a'r ffordd yr oedd hi'n cael ei chadw ar wahân i'r bobl yr oedd yn ei charu.
"Gallaf ddychmygu fod y profiad wedi bod yn un gwbl erchyll."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.