Tad yn galw ar wleidyddion i achub catrawd
- Cyhoeddwyd
Mae tad milwr o'r Cymoedd, a laddwyd yn Afghanistan, wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i achub ei gatrawd.
Cafodd yr is gorporal Richard Scanlon, 31 oed o Rymni, Sir Caerffili, ei ladd yn nhalaith Helmand fis Tachwedd y llynedd.
Roedd yn aelod o gatrawd y Queen's Dragoon Guards - sydd hefyd yn cael ei adnabod fel y Cafalri Cymreig.
Nawr mae pryder y gallai'r gatrawd gael ei huno wrth i'r fyddin geisio arbedion ariannol.
Dim penderfyniad
Gwnaeth y tad, Ray Scanlon, ei sylwadau wrth i'r gatrawd baratoi ar gyfer dwy orymdaith yng Nghymru ar ôl dychwelyd adref o Afghanistan.
Dywedodd swyddogion o'r Weinyddiaeth Amddiffyn nad oes yna benderfyniad terfynol wedi ei wneud.
Mae'r llywodraeth yn bwriadu lleihau nifer y milwr o 102,000 i 82,000 erbyn 2020.
Ym mis Mai dechreuwyd ymgyrch i achub y gatrawd ar ôl sïon y byddai'r gatrawd yn cael ei huno ac y byddai 500 o filwyr yn cael eu diswyddo.
Mae'r gatrawd yn cael ei hadnabod fel y Cafalri Cymreig oherwydd bod y rhan fwyaf yn cael eu recriwtio o Gymru.
Dywedodd Ray Scanlon y byddai penderfyniad i gael gwared ar yr enw yn sarhad.
'Troi yn ei fedd'
Siaradodd wrth i'r gatrawd baratoi i orymdeithio drwy strydoedd Abertawe a Chaerdydd.
"Byddai fy mab yn troi yn ei fedd pe bai'n gwybod fod hyn yn digwydd," meddai.
"Mae'r bechgyn hyn newydd ddod yn ôl o Afghanistan, wedi colli dau o'u ffrindiau, a nawr maen nhw'n clywed bod hi'n bosib y byddant yn colli'r gatrawd.
Dywed Mr Scanlon y dylid cadw'r Queen's Dragoon Guards a'r ddwy gatrawd arall o Gymru - y Gwarchodwyr Cymreig a'r Cymry Brenhinol.
Dywedodd y dylai gwleidyddion o Gymru fynd â'u brwydr at Lywodraeth San Steffan.
Ddydd Sul bydd yna wasanaeth er cof am yr is gorporal Scanlon a'r is gapten David Boyce o Sir Hertford yng nghadeirlan Llandaf, Caerdydd.
Cafodd y ddau eu lladd gan ffrwydrad yn ardal Nahr-e-Saraj.
Bydd y gatrawd yn gorymdeithio drwy Abertawe ddydd Mercher, ac yna Caerdydd ddydd Sadwrn
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2012
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012