Rhybudd gwenwyn bwyd wrth i fyfyrwyr symud i lety newydd

O'r chwith: Elis, Cêt, Ross ac Elin
Disgrifiad o’r llun,

Mae (chwith i dde) Elis, Cêt, Ross ac Elin yn rhannu tŷ ym Mangor Uchaf

  • Cyhoeddwyd

Ar ddechrau blwyddyn academaidd arall, mae'n gyfnod o newid mawr i lawer o fyfyrwyr sy'n byw yn annibynnol am y tro cyntaf.

Dyna pam bod myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd gofal wrth rannu ceginau ac offer, gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhybuddio am berygl gwenwyn bwyd.

Mae'r asiantaeth yn dweud bod gwenwyn bwyd yn gallu bod yn beryglus iawn – yn enwedig mewn amgylcheddau lle mae bwyd yn cael ei rannu neu ei gadw'n amhriodol.

Mae eu hystadegau hefyd yn awgrymu bod dros draean o fyfyrwyr yn y DU wedi bwyta bwyd sydd wedi'i gasglu o finiau, neu ardaloedd gwastraff siopau, yn sgil pwysau ariannol.

Yn aml iawn, dim ond un silff sydd gan fyfyrwyr yn yr oergell, sy'n ei gwneud hi'n anodd cadw at arferion diogelwch bwyd priodol.

Dywedodd dwy ran o dair o fyfyrwyr eu bod yn bwyta bwyd sydd wedi mynd heibio'i ddyddiad bwyta.

Mae nifer hefyd yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cadw'r gegin yn lan.

Myfyrwyr yn edrych yn yr oergell
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sioned Fidler ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd fod angen cofio i "gadw'ch oergell rhwng 0 a 5 gradd"

Mae Elis, Ross, Cêt ac Elin yn rhannu tŷ ar Ffordd y Coleg ym Mangor Uchaf, ac yn cydnabod bod dilyn y canllawiau'n gallu bod yn her.

Dywedodd Elis Massareli: "O ran cwcio chicken yn uni, ma' hi wedi bod tair blynedd ers cychwyn uni - a dwi dal yn fyw.

"Dwi heb fod yn sâl, achos dwi'n dilyn yr instructions sydd ar y bocs," meddai.

"Cross-contamination yn fair enough, ond dwi ddim am gadw chwech chopping board i bethe unigol a dio ddim 'di lladd ni.

"Ond o'dd o bron a lladd un o ffrindia' fi... yn y flwyddyn gynta', achos o'dd o 'di cwcio pump chicken strip, odd o wedi byta tri ac ar ganol byta'r pedwerydd.

Ychwanegodd Elis fod pawb "wedi sylwi bod o'n hollol binc tu fewn".

'Llaeth wedi c'ledu a'r fridge yn hogla'

Dywedodd Elin Rowlands nad ydy rhywun yn meddwl am ba mor ddiogel ydy rhywbeth i fwyta "pan ti'n hungover".

"Dwi wedi bod yn sâl ambell waith ar ôl rhoi bocs Chinese i mewn a ddim cynhesu fo'n iawn yn hollol drwadd a dwi wedi really strugglo ar ei ôl o i ddeud y gwir!"

Yn ôl Ross Griffiths mae diffyg lle yn medru bod yn broblem.

"Mewn shared accommodation, o'dd 'na dipyn o weithia lle oedd y llaeth wedi c'ledu ac roedd o'n neud y fridge hogla, ond nes i byth fynd yn sâl ohona' fo.

"Ma'n eitha' anodd fel stiwdant achos does na'm lle yn y fridge, does na'm digon o shilffoedd," meddai Ross.

Bocs bwyd takeawayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dylid ail-gynhesu bwyd yn drylwyr cyn ei fwyta

Mae Cêt Hughes yn dweud ei bod "really yn deall pam bod pobl yn mynd yn sâl o beidio coginio cyw iâr a petha tebyg yn ddigon da".

"Ond ni'n trio bod mor gydwybodol â phosib. Ma rota bin a rota glanhau gyda ni a da ni'n trio ein gorau i fod yn daclus."

Ychwanegodd Cêt ei bod hi'n "eitha' anodd gwybod be' yw'r rheolau i gyd 'efo bwyd, ond ma'r brifysgol yn le da i ddysgu".

Roedd nifer yr achosion o wenwyn bwyd yn 2024 ar gynnydd yn ôl ffigyrau swyddogol.

Cofnododd Iechyd Cyhoeddus Cymru dros 5,000 o achosion o campylobacter – bacteria cyffredin sy'n achosi gwenwyn bwyd.

Yn ôl Ffion Hewson, sy'n arbenigwr ym maes hylendid bwyd, mae golchi dwylo a glanhau'n allweddol.

"Y mathau o heintiau sydd fwyaf poblogaidd ar hyn o bryd yw salmonella a campylobacter a ma'r ddau yn i'w cael mewn cig amrwd.

"Hefyd mae 'na achosion o salmonella wedi dod o ffrwyth, megis melon, a ma' hyn oherwydd doedd y melon heb gael ei olchi cyn ei fwyta."

Ffion HewsonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ffion Hewson, sy'n arbenigwr ym maes hylendid bwyd, mae golchi dwylo a glanhau'n allweddol

Ychwanegodd Ms Hewson mai golchi dwylo sy'n "hanfodol cyn bob dim".

"Ma' golchi dwylo gyda sebon a dŵr poeth yn hollol hanfodol ac yn hollol syml. Ond yn aml iawn dydy tai myfyrwyr ddim hefo'r cyfleusterau o ran sebon."

"Be' sy'n bwysig wrth baratoi bwyd yw cadw bwyd amrwd o fwyd sy'n barod i'w fwyta."

Dywedodd mai'r rheol gyffredinol ar gyfer bwyd yw: "Os ydy o wedi cael ei adael dros nos, mae o'n anffodus angen cael ei daflu.

BiniauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheoli gwastraff mewn ardaloedd sy'n cael eu rhannu yn hollbwysig

Ychwanegodd: "Ma' unrhyw grŵp o bobl angen cyd-fynd ag angen rheoli gwastraff.

"Goblygiadau hyn yw llygod mawr sy'n gallu creu afiechydon.

"Cofiwch hefyd am doiledau – os na un person yn y tŷ wedi cael afiechyd bwyd.

"Ma' hwnna'n gallu trosglwyddo i'r person nesa' sy'n defnyddio'r toiled yna. Ma'n hanfodol bod pawb yn golchi dwylo ac yn glanhau mannau cyhoeddus."

Beth ydy'r cyngor?

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn erfyn ar fyfyrwyr i gymryd camau syml er mwyn bod yn ddiogel.

Dywedodd Sioned Fidler ar ran yr asiantaeth fod angen cofio:

  • Cadw'ch oergell rhwng 0 a 5 gradd, storio bwyd sy'n barod i'w fwyta ar wahân i gig amrwd a darllen dyddiadau'r bwyd yn rheolaidd;

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn newid cadachau a sponges yn aml ac yn golchi'ch dwylo bob tro – yn arbennig wrth gyffwrdd â'ch ffôn wrth goginio;

  • Coginiwch fwyd yn drylwyr a dilynwch y cyfarwyddiadau bob tro;

  • Wrth gynhesu bwyd dros ben, gwnewch yn siŵr ei fod yn stemio'n boeth drwyddo draw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.